Datganiad o Gredoau (Rhif A1)

(Rhifyn 1.0 19971223-19971223)

Mae’r datganiad yn grynodeb o safbwynt Beiblaidd yr apostolion gydol y ganrif gyntaf. Mae’n cyflwyno safbwynt y Beibl mewn modd cydlynol a chlir. Ceir yma saith pennod sy’n sôn am y Duwdod, Cynllun Iachawdwriaeth, Athrawiaeth ynglŷn â Chyfrifoldebau Dynol, Athrawiaeth ynglŷn â’r Meseia, y Broblem o Ddrygioni, yr Eglwys, a Theyrnas Duw. Ceir cyflwyniad sy’n delio â’r gwahaniaethau rhwng Cristnogaeth fodern a hynafol. Hefyd, mae yma atodiad sydd yn delio â datblygiad athrawiaethau ynglŷn â’r Drindod.

Datganiad o Gredoau

o’r

Ffydd Gristnogol

Ni ddylid gwerthu’r llyfryn hwn.

Gwasanaeth addysgiadol am ddim er budd y cyhoedd ydyw.

ISBN 0 646 20506 4

Hawlfraint © 1994,1995,1996,1997

Eglwysi Cristnogol Duw

PO Box 369, WODEN ACT 2606, AUSTRALIA

Cyhoeddiad Cyntaf Awst 1994

Ail Gyhoeddiad Chwefror 1995

Trydydd Cyhoeddiad Mehefin 1996

Pedwerydd Cyhoeddiad Mawrth 1997

Argraffwyd yn Awstralia gan Union Offset Co. Pty Ltd, Canberra

Cynnwys

tud

Cyflwyniad i

Pennod 1.  Y Duwdod

1.1 Duw’r Tad 1

1.2 Iesu, mab Duw 1

1.3 Yr Ysbryd Glân 1

1.4 Perthynas yr Ysbryd Glân â Christ a dynoliaeth 2

1.5 Perthynas Crist, Satan a’r Lliaws i Dduw 3

1.5.1 Crist fel Mab Duw 6

1.5.2 Athrawiaeth Anghrist 7

1.5.3 Enw a sofraniaeth Duw 8

Pennod 2. Cynllun Iachawdwriaeth

2.1 Cwymp y Ddynoliaeth 9

2.2 Iachawdwriaeth y Ddynoliaeth 9

2.3 Y Beibl fel Gwirionedd Ysbrydoledig 9

2.4 Edifeirwch a Thröedigaeth 10

2.5 Bedydd 11

Pennod 3. Athrawiaeth ynglŷn â Chyfrifoldebau Dynol

3.1 Gweddi ac Addoliad 12

3.1.1 Duw fel Gwrthrych Gweddi ac Addoli 12

3.1.1.1 Gwrthrych Addoli 12

3.1.1.2 Gwrthrych Gweddi 13

3.1.1.3 Gweddïo Unigol a Chasgliadol ar ran Eraill. 14

3.2 Y berthynas rhwng Iachawdwriaeth a’r Gyfraith 14

3.2.1 Duw yw ein Craig 14

3.2.2 Iachawdwriaeth trwy Ras 16

3.2.3 Rhwymedigaeth yn ôl y Gyfraith 17

3.2.3.1 Pam bod Cristnogion yn Cadw’r Gyfraith 18

3.2.3.2 Cristnogion fel Teml Duw 19

3.2.4 Y Deg Gorchymyn 19

3.2.5 Cyfreithiau eraill yn Llywodraethu Ymddygiad Dynol. 22

3.2.5.1 Cyfreithiau Bwyd 22

3.2.5.2 Y Saboth 22

3.2.5.3 Y Lleuadau newydd 23

3.2.5.4 Y Diwrnodau Sanctaidd blynyddol 23

3.2.5.5 Priodas 23

3.2.6 Goruchwyliaeth Ariannol 24

3.2.6.1 Tuag at Dduw 24

3.2.6.2 Tuag at Eraill 25

3.2.7 Rhyfela a Phleidleisio 26

3.2.7.1 Rhyfela 26

3.2.7.2 Pleidleisio 26

Pennod 4. Athrawiaethau ynglŷn â’r Meseia

4.1 Rhag Hanfod Crist 27

4.2 Y Croesholiad a’r Atgyfodiad 27

4.3 Ailddyfodiad Crist 28

4.4 Teyrnasiad Milflwyddol Crist 28

Pennod 5. Y Broblem o Ddrygioni

5.1 Bodolaeth Drygioni trwy Wrthryfeliad y Lluoedd 30

5.2 Yr Athrawiaeth yn ymwneud â Rhagarfaeth 30

5.3 Cyflwr y Meirw 31

5.4 Atgyfodiad y Meirw 31

5.5 Cosbi’r Pechadurus 32

Pennod 6. Yr Eglwys

6.1 Pwy neu Beth yw’r Eglwys? 34

6.2 Trefniant yr Eglwys 34

6.3 Nodau ac Amcanion yr Eglwys 35

6.4 Sancteiddiad 36

Pennod 7. Teyrnas Duw

7.1 Sefydliad Teyrnas Duw 37

7.1.1 Y Deyrnas Ysbrydol 37

7.1.2 Teyrnasiad Milflwyddol Crist 38

7.1.2.1 Dychweliad y Meseia 38

7.1.2.2 Ymgynnull Israel 39

7.1.2.3 Diwrnod yr Arglwydd 39

7.1.3 Teyrnas Dragwyddol Duw 40

7.1.3.1 Dyfodiad Duw 40

7.1.3.2 Daear Newydd a Jerwsalem Newydd 40

7.1.3.3 Tynged y Ddynoliaeth 41

Atodiad 42

Am fil saith cant o flynyddoedd, mae Cristnogaeth wedi’i hymrwymo i system ddiwinyddol sydd wedi ei seilio ar athroniaeth Roegaidd, a system yn perthyn i neo-Blatoniaeth. Mae symlrwydd Undodaidd neges y Beibl a chydlynoldeb datguddiad Duw i ddyn dros y ddau Destament wedi eu haddasu a’u tywyllu er budd pŵer a dominyddiaeth yn y byd fel ag yr oedd bryd hynny.   

Y canlyniad oedd strwythur y deellir iddo gael ei osod yng nghynghorau Nicaea (325OC), Laodicea (c. 366OC), Gystennyn (381OC), a Chalcedon (451OC). Newidiodd y strwythur y ddealltwriaeth o Dduw ar hyd llinellau metaffisegol i’r fath raddau fel y crëwyd y drindod. Cafodd y Saboth ei wahardd gan gyngor Laodcea (canon 29) yn ogystal, gyda chosb, gan gyflwyno gwyliau paganaidd a dderbyniwyd, o addoli ar y Sul i wyliau Haul Rhagfyr, a system y Pasg yn lle Gŵyl y Bara Croyw. Yr hyn a addaswyd hefyd oedd y modd yr oedd y ddealltwriaeth o’r system a’r gyfraith Feiblaidd i gael eu dehongli. Ni ystyriwyd y gyfraith a roddwyd i Moses yn berthnasol bellach ac fe ail-ddehonglwyd darnau o’r Testament Newydd er mwyn cyfiawnhau ymarferion paganaidd a fodolai.

Er enghraifft, roedd y cyfreithiau bwyd i gael eu diddymu trwy gamosod Actau 10 a thestunau eraill. Effeithiwyd iechyd dynol yn syth. Serch hynny, dim ond ar ôl rhyw ddwy fil o flynyddoedd y gellid gweld gwir effaith hyn ar yr amgylchedd. Mae’r toriad yn y gadwyn fwyd, i raddau helaeth, yn ganlyniad i fwyta bwydydd oedd wedi eu gwahardd o dan y gyfraith Feiblaidd.

Nid yw dirywiad systemau’r tir i’w gweld yn glir nes bod y tiroedd wedi diffygio o ganlyniad i fethu goruchwylio systemau jiwbilî a Sabathau’r tir oherwydd maent wedi eu cydgysylltu yn annatod gyda’r calendar a seiliwyd ar gylch pedair blynedd ar bymtheg y lleuad. Roedd cyflwyno calendar solar, yn ei hun, yn gam mawr tuag at chwalu’r ddealltwriaeth o’r patrymau a’r cylchoedd a sefydlwyd gan Dduw er mwyn cael harmoni naturiol.

Ar y cyfan, ychydig iawn sydd yn gyffredin rhwng Cristnogaeth Fodern a’r Gristnogaeth wreiddiol. Dadl rhai yw bod twf Islam a’r rhyfeloedd a ddilynodd gydag Islam yn ganlyniad uniongyrchol i’r system Gristnogol gamarweiniol a sefydlwyd yn Ewrop a Gorllewin Asia gan y systemau diwinyddol Groegaidd a ddefnyddiai ddiwinyddiaeth Cappadociaidd wedi ei seilio ar Drindod Duw a’r ymgais gyfriniol i uno gyda Duw ac fel Duw.

Yn syml iawn, dydy system y Drindod ddim yn gweithio. Daethpwyd yn agos i ddinistrio’r blaned o ganlyniad i ddwy ganrif ar bymtheg o’r athrawiaeth wallus hon, a gwelwyd erlid pobl oedd yn wirioneddol ymdrechu i ufuddhau i’r deddfau Beiblaidd.

Bwriad y gwaith hwn yw ynysu neges wreiddiol y Beibl ac Eglwys y Testament Newydd o dan Iesu Grist a’r apostolion yn y ffordd gliriaf, mwyaf syml posibl. Diau y bydd ambell chwedl hoff yn cael ei herio a’i chwalu gan yr hyn sy’n cael ei ddatgan yma. Mae’r gwaith wedi ei ysgrifennu fel ei fod mor agos â phosib i gyfres o ddatganiadau neu aralleiriadau Beiblaidd gyda dyfyniadau i’w cefnogi. Yn y pen draw, credir y bydd y gwaith yn llai amwys o’i wneud yn y modd hwn, gyda’i fwriad yn glir. Lle bo’n bosib, rhestrir amrediad llawn o destunau ar bwnc penodol i osgoi’r arfer cyffredin hwnnw o ddyfynnu allan o gyd-destun neu ddyfynnu testun wedi ei gam-eirio. Mae rhai testunau Beiblaidd yn gwbl ffug (e.e. 1In.5:7 KJV; 1Tim. 3:16 KJV o Codecs A), neu’n gam-gyfieithiadau (1Cor. 15:28 RSV ayb; Dat. 3:14 NIV ymysg amryw o rai eraill), sydd wedi eu cynllunio i ddirymu testunau cyferbyniol neu i gamddehongli testunau er mwyn gwneud iddynt swnio fel petaent yn cefnogi’r Drindod neu’r system Gappadociaidd wrth eu darllen ar eu pennau eu hunain.

Pan ddaw’r Meseia eto, ei fwriad yw cyflwyno’r system ddeddfau y rhoddodd i Moses yn Sinai yn ei chyfanrwydd. Mae’n rheidrwydd ar bob Cristion i adnabod a gweithredu’r system o fyw ac addoli sy’n cael ei osod yn y Beibl. Disgwylir i’r Cristion efelychu ffordd o fyw Iesu Grist a glynu wrth y systemau hynny y cyflwynodd ac y glynodd Crist atynt fel dyn a chyn hynny. Bwriad y gwaith hwn yw cyflwyno’r holl system mewn dull cydlynol, dealladwy, fel y gellir gwthio systemau camarweiniol dwy ganrif ar bymtheg i’r naill ochr ac ailddarganfod a phlannu’r ffordd wreiddiol, gywir o fyw ym mhawb, dim bwys beth a wnaethant yn y gorffennol. Ein tasg yw arwain pobl i edifeirwch a ffordd newydd o fyw.

Pennod 1

Y Duwdod

1.1 Duw’r Tad

Duw Pennaf y bydysawd yw Duw. Efe yw’r Holl Alluog, Creawdwr a Chynhaliwr nefoedd a daear, a’r oll sydd ynddynt. (Gen. 1.1; Neh. 9:6; Salmau. 124:8; Eseia. 40:26,28; 44:24; Act. 14:15; 17:24-25; Dat. 14:7). Ganddo ef yn unig y mae anfarwoldeb (1Tim. 6:16). Efe yw ein Duw a’n Tad ni a Duw a Thad Iesu Grist (In. 20:17). Efe yw’r Duw Goruchaf (Gen. 14:18; Num. 24:16; Deut. 32:8; Mc. 5:7) a’r unig wir Dduw (In. 17:3; 1In. 5:20).

1.2 Iesu, Mab Duw

Iesu yw delw’r Duw anweledig, cyntaf-anedig yr holl greadigaeth (proototokos) (Col. 1:15) ac felly  dechreuad creadigaeth Duw (arche) (Dat. 3:14). Efe yw unig anedig Fab Duw (monogene) (Mth. 3:17; In. 1:18; 1In. 4:9), yr hwn a gaed drwy’r Ysbryd Glân ac a aned i’r wyryf, Mair (Lc. 1:26-35). Efe yw’r Crist neu’r Meseia (Mth. 16:16; In. 1:41), a anfonwyd gan Dduw i fod yn Iachawdwr a Gwaredwr i ni (Mth. 14:33; In. 8:42; Eff. 1:7; Tit. 2:14). Mab y Goruchaf y gelwir ef (Mc. 5:7). Cyhoeddwyd ef yn Fab Duw, â mawr allu, trwy atgyfodiad o farwolaeth. (Rhuf. 1:4). Rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad, ac fe deyrnasa ar dŷ Jacob am byth, ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd. (Lc. 1:32,33).

1.3 Yr Ysbryd Glân

Yr Ysbryd Glân (Act. 2:4) yw’r hanfod neu’r pŵer hwnnw gan Dduw yr addawodd Crist ei yrru i’r etholedigaeth (In. 16:7). Nid person ydyw ond estyniad o bŵer bodolaeth Duw. Dyma’r modd y down ninnau yn gyfranogion o’r natur ddwyfol. (2Pedr. 1:4), a chael ein llenwi gan yr Ysbryd Glân (Act. 9:17; Eff. 5:18) fel ein bod i gyd yn blant i Dduw (Job 38:7; Rhuf. 8:14; 1In. 3:1-2) a chyd-etifeddion gyda Crist (Rhuf. 8:17; Gal. 3:29; Tit. 3:7; Heb. 1:14, 6:17, 11:9; Iago. 2:5; 1Pedr. 3:7). Fe’i rhoddir gan Dduw i’r sawl sy’n gofyn (Lc. 11:9-13) ac sy’n ufuddhau i’w orchmynion (1In. 3:24; Act. 5:32). Yr Ysbryd Glân yw’r cysurwr sy’n arwain gweision Duw tuag at y gwirionedd (In. 14:16,17,26). Fe dderbyniwch nerth wrth dystio i’r Ysbryd Glân (Act. 1:8). Mae’n rhannu rhoddion fel y cofnodir yn 1Corinthiaid 12:7-11 ac mae ganddo ffrwythau fel y disgrifir yn Galatiaid 5:22-23 a gânt eu rhoddi heb fesur (In. 3:34 RSV; Rhuf. 12:6). Dyma sut y daw Duw oll yn oll; yn un Duw a Thad i bawb, yr hwn sydd goruwch pawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb (1Cor. 15:28; Eff. 4:6).

1.4 Perthynas yr Ysbryd Glân â Christ a Dynoliaeth

Gweithreda’r Ysbryd Glân cyn bedydd. Mae’r Ysbryd yn denu’r unigolyn at Dduw trwy Grist (Heb. 7:25).

Rhoddir blaen ffrwyth yr Ysbryd i’r unigolyn wrth y bedydd, o Rhufeiniaid 8:23, sy’n datgan yn glir nad yw’r mabwysiad yn digwydd hyd nes y rhyddheir y corff.

Fel hyn y cawn ein geni eilwaith, a pharhau i dyfu yn yr Ysbryd yn ddyddiol trwy Iesu Grist nes cyrraedd gogoniant Duw. Yr Ysbryd Glân yw Ysbryd y Gwirionedd (1In. 4:6, 5:6) a thrwy ddilyn y gwir ym mhob peth, tyfwn i Grist ein pen ym mhob ffordd (Eff. 4:15). Yr Ysbryd Glân yw Ysbryd Duw (Rhuf. 8:14) ac Ysbryd ffydd (2Cor. 4:13) sy’n plymio pob peth ac sy’n gwybod pob peth (1Cor. 2:10-11, 12:3 ff).

Nid elfen annibynnol o Drindod Duw yw’r Ysbryd Glân felly ond cyfrwng i ni ddatblygu’n elohim (Sech. 12:8). Mae’r Ysbryd yn cyfleu dealltwriaeth o’n meddyliau a’n bodolaeth i Dduw. Wrth gael ein harwain a’n heirioli gan Iesu Grist, ein elohim neu theos, (Salmau 45:6-7; Sech. 12:8; Heb. 1:8-9) mae’n galluogi Crist i’n helpu, i’n dysgu a’n cysuro ac yn ein galluogi ni i weithredu pŵer Duw. Mae’r Ysbryd yn rhoddi i bob person y nodweddion hynny y mae Duw yn dymuno eu rhoi er budd y corff fel yr amlinellir yn 1Corinthiaid 12:7-11.

Gellir diffodd yr Ysbryd (1Thes. 5:19) trwy ei esgeuluso neu ei drahau (Eff. 4:30) ac felly mae’n cydnabod cynnydd a cholled mewn unigolion.

Ffrwyth yr Ysbryd Glân yw cariad o Galatiaid 5:22. Felly, os nad ydyn ni’n caru’n gilydd nid yw’r Ysbryd Glân yn bresennol.

Yr Ysbryd yw’r cyfrwng a ddefnyddiwn i addoli Duw fel y nodir yn Philipiaid 3:3. Ni all fod yn Dduw fel gwrthrych i’w addoli ac, felly, mae cyfystyr â Duw’r Tad. Dyma’r grym sy’n rhoi nerth i Grist. O ganlyniad mae Crist yn Dad Bythol (Eseia 9:6) yr hwn y mae pob teulu yn y nefoedd ac ar y ddaear yn cymryd ei enw oddi wrtho (Eff. 3:15). Caiff Crist ei ddirprwyo yn Dad Bythol.

Mae’r holl deuluoedd hyn yn y nefoedd ac ar y ddaear yn cymryd ei enw oddi wrtho a dyna’r rheswm ein bod yn plygu ar ein gluniau gerbron y Tad ac yn ei addoli Ef. (Eff. 3:14-15).

Crist oedd cyntaf-anedig y greadigaeth. Ynddo ef y crëwyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, gorseddau, arglwyddiaethau, tywysogaethau ac awdurdodau. Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu. Y mae ef yn bod cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. (Col. 1:16-17). Ond Duw a’i gwnaeth ef a dymuno bod y greadigaeth yn bodoli yng Nghrist. Felly, nid Duw yw Crist mewn unrhyw ystyr; gan Dduw’r Tad yn unig y mae anfarwoldeb Duwiol, (1Tim. 6:16) ac mae’n bodoli mewn tragwyddoldeb diysgog.

Gelwir Cristionogion allan o’r byd hwn i fywyd o wasanaeth ac ymrwymiad. Y mae llawer, yn wir, wedi eu gwahodd, ond ychydig wedi eu hethol. (Mth. 20:16, 22:14). Cristionogion gaiff eu hethol, fel y bu i Dduw ethol Crist. (Lc. 23:35). Dewiswyd yr etholedigaeth gan Grist (In. 6:70, 15:16,19), o dan gyfarwyddyd Duw (1Pedr. 2:4).

I gynorthwyo’r Eglwys, rhoddir dealltwriaeth o ryfeddodau Duw i gynulliad dethol. Yr Ysbryd Glân oedd y cyfrwng a ddefnyddiwyd i drosglwyddo’r cyfrinachau hyn am Dduw a Theyrnas Duw (Mc. 4:11). Llefarir doethineb Duw a’i dirgelwch cuddiedig (1Cor. 2:7), ac fe’i hesbonnir gan weision Duw (1Cor. 2:7, 15:51). Hysbysodd i ni ddirgelwch ei ewyllys (Eff. 1:9) trwy ddatguddio Ei weision. Mae’r dirgelwch hwn yng ngofal Crist trwy’r etholedigaeth. Ysgrifennodd Paul

Y mae’n rhaid eich bod wedi clywed am gynllun gras Duw, y gras sydd wedi ei roi i mi trwy ddatguddiad. Yr wyf eisoes wedi ysgrifennu’n fyr am hyn, ac o’i ddarllen gallwch weld mesur fy nirnadaeth o ddirgelwch Crist. Yn y cenedlaethau gynt, ni chafodd y dirgelwch hwn mo’i hysbysu i feibion dynion, ond yn awr mae wedi ei ddatguddio gan Ysbryd Duw i’w apostolion sanctaidd a’r proffwydi. Dyma’r dirgelwch: bod y Cenhedloedd, ynghyd â’r Iddewon, yn gyd-etifeddion, yn gyd-aelodau o’r corff, ac yn gydgyfrannogion o’r addewid yng Nghrist Iesu trwy’r Efengyl. (Eff. 3:2-6).

1.5 Perthynas Crist, Satan a’r Lliaws i Dduw

Ceir nifer o gyfeiriadau yn y Beibl tuag at Elohim neu Theoi, sy’n golygu duwiau. Crist oedd un o’r endidau darostyngedig hynny a elwir yn Elohim yn yr Hen Destament. (gweler Sech. 12:8). Cyfeirir ar Grist fel seren newydd y bore yn y Testament Newydd wrth iddo ddychwelyd i’r ddaear. Bydd yn rhannu’r safle hwn gyda’i etholedigaeth (Dat. 2:28, 22:16).

Ystyrir Duw yn y Beibl fel Duw a Thad i Grist (o Rhuf. 15:6; 2Cor. 1:3, 11:31; Eff. 1:3,17; Col. 1:3; Heb. 1:1 ff; 1Pedr. 1:3; 2In. 3; Dat. 1:1,6, 15:3). Mae Crist yn rhoi ei einioes, ei bŵer a’i awdurdod yn nwylo Duw’r Tad (In. 10:17-18).

Darostynga Crist ei ewyllys i ewyllys Duw, y Tad (Mth. 21:31, 26:39; Mc. 14:36; In. 3:16, 4:34). Rhoddodd Duw yr etholedigaeth i Grist ac mae Duw yn fwy na Christ (In. 14:28) ac yn fwy na phob peth (In. 10:29). Felly, anfonodd Duw ei unig anedig (monogene) Fab i’r byd fel y gallem ni fyw trwyddo ef (1In. 4:9). Duw sydd yn gogoneddu Crist (In. 8:54), gan fod Duw yn fwy na Christ (In. 14:28).

Duw yw'r Graig (sur) fel Chwarel neu Fynydd sy’n ffynhonnell i bob chwarel arall, callestr Josua 5:2 sydd yn enwaedu Israel, un cyfiawn ac uniawn yw ef (Deut. 32:4). Duw yw Craig Israel, Craig eu hiachawdwriaeth (Deut. 32:15), y Graig a’u cenhedlodd (Deut. 32:18,28-31). Dengys 1Samuel 2:2 nad oes Craig fel ein Duw ni, y Graig dragwyddol (Eseia 26:4). O’r Graig hon y naddwyd pawb ohoni, pob un o ddisgynyddion Abraham yn y ffydd (Eseia 51:1-2). Naddwyd y Meseia o’r Graig hon (Dan. 2:34,45) i ddarostwng ymerodraethau’r byd. Duw yw’r Graig yr adeiladir y sylfaen arni lle y bydd Crist yn adeiladu ei Eglwys (Mth. 16:18) a lle y bydd ef ei hun yn gorffwyso. Y Meseia yw Prif Gonglfaen Teml Duw, a’r etholedig yw ei thu mewn neu’r Cysegr Sancteiddiaf, ceidwaid yr Ysbryd Glân. Naddwyd holl gerrig y Deml o Graig Duw a Christ ac fe’u rhoddwyd i Grist, y graig ysbrydol (1Cor. 10:4), y maen tramgwydd a chraig rhwystr (Rhuf. 9:33) i ffurfio’r Deml.

Mae Crist yn saernïo’r Deml fel bod Duw goruwch pawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb (Eff. 4:6). Rhoddwyd Crist gan Dduw i fod yn bob peth ac ym mhob peth (panta kai ên pasin Col. 3:11) gan ddarostwng pob peth dan ei draed ef (1Cor. 15:27) a’i roi ef yn ben ar bob peth i’r eglwys; yr eglwys hon yw ei gorff ef, a chyflawniad yr hwn sy’n cael ei gyflawni ym mhob peth a thrwy bob peth. (Eff. 1:22-23). Ond pan fo’r Ysgrythur yn dweud bod pob peth wedi ei ddarostwng, y mae’n amlwg nad yw hyn yn cynnwys Duw, yr un sydd wedi darostwng pob peth iddo ef. (1Cor. 15 :27).

Pan fydd Crist yn darostwng pob peth yna bydd Crist ei hun yn wrthrych i Dduw, yr hwn a ddarostyngodd bob peth i Grist, ac felly Duw fydd oll yn oll (panta ên pasin 1Cor. 15:28 nid yn ôl RSV). Dyma brofi felly bod yr athrawiaethau Platonaidd sy’n ceisio uno Duw a Crist yn y Drindod yn gwrth-ddweud neges yr Ysgrythur. Bydd Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw, yn ôl cyfarwyddyd Duw (Heb 1:3,13, 8:1, 10:12, 12:2; 1 Pedr. 3:22) a rhannu gorsedd Duw fel y bydd yr etholedigaeth yn rhannu’r orsedd a roddwyd i Grist (Dat. 3:21) sef gorsedd Duw (Salmau 45:6-7; Heb. 1:8).

Nid yw’r hwn a anfonwyd yn fwy na Duw, a’i hanfonodd (In. 13:16), nid yw gwas yn fwy na’i feistr (In. 15:20).

Cafodd Crist ei herio gan Satan yn yr anialwch ac yno mewn gwirionedd y cychwynnwyd treialu Satan. Fel Seren y Bore, Mab y Wawr neu Lwsiffer y blaned hon (Eseia 14:12) roedd Satan yn geidwad, yn athro ac, mewn gwirionedd, yn un o’r Elohim a ddarostyngwyd i Dduw’r Tad. 

Crist oedd y seren oedd i ddod allan o Jacob (yn Num. 24:17). Ac felly y nodir yn Llyfrau Moses; bod un o Sêr y Bore sydd yn bresennol pan gaiff y blaned ei chwblhau (yn Job 38:7), un o’r elohim, yn mynd i ddatblygu’n ddyn o Hiliogaeth Jacob a Dafydd (Dat. 22:16).

Nid yr elohim hwn y gwyddom ni amdano fel Iesu Grist oedd Seren Fore’r blaned eto. Satan oedd yn hawlio’r safle hwnnw ar y pryd (from Eseia 14:12 and Esec. 28:2-10).

Cafodd Crist ei eneinio fel elohim Israel o Salm 45:7 a’i eneinio uwchlaw ei gyfoedion a’i bartneriaid. Serch hynny, nid Crist oedd Seren y Bore ac nid yw’n cael y cyfrifoldebau hynny tan ei ailddyfodiad. Mae’r safle a’r cyfrifoldebau i’w rhannu gyda Christ gan yr etholedigaeth, sy’n rhannu ei natur fel Seren y Bore yn eu calonnau (cyfieithwyd fel Seren Ddydd yn 2Pedr 1:19). Caiff yr etholedigaeth addewid i rannu’r pŵer hwn yn Datguddiad 2:28.

Ceisiodd Satan, fel Seren y Bore, herio’r Duw Goruchaf neu Dduw’r Tad fel y dywedir wrthym yn Eseia 14:12. Ceisiodd ddyrchafu ei orsedd, un o orseddi Duw, yn uwch na Sêr Duw neu Gyngor Elohim. Y Cyngor hwn yw Cyngor Dwyfol yr Elohim neu’r Duwiau y cyfeirir ato yn Salm 82:1. Diddorol nodi bod Irenæus, disgybl Polycarp, disgybl Ioan, yn credu bod Salm 82:1 yn cyfeirio at y Theoi neu’r duwiau oedd hefyd yn cynnwys yr etholedigaeth, a’r rhai a fabwysiadwyd yn benodol (Yn groes i Heresies, Bk. 3, Pen. 6, ANF, Cyf. 1, t. 419).

Ceir nifer o Feibion i Dduw (o Job 1:6, 2:1, 38:7; Salmau 86:8-10, 95:3, 96:4, 135:5) a gaiff eu hadnabod fel y Bene Elyon neu Feibion y Goruchaf. Caiff yr etholedigaeth ddynol eu cyfrif o fewn y Llu nefol fel Meibion Duw yn ogystal (o Rhuf. 8:14). Felly, mae Crist ac etholedig Feibion Duw yn un â Duw trwy’r Ysbryd Glân, ac wedi eu rhagordeinio o sylfaeni’r byd. Dewisodd Crist ymwrthod â’i bŵer er mwyn bod yn ddyn. Ond yn nhrefn sanctaidd yr Ysbryd, cyhoeddwyd ef a’r holl etholedigaeth yn Feibion Duw, â mawr allu, trwy atgyfodiad o farwolaeth (Rhuf. 1:4).

O Actau 7:35-39 angel a lefarodd wrth Moses ar Fynydd Sinai a’r angel hwn oedd Crist. Yn Galatiaid 4:14 mae Paul yn trafod ei hun fel angel Duw, fel Iesu Grist ei hun.

Byddwn ninnau hefyd yn angylion (Mth. 22:30) yn ôl y drefn neu isaggelos (o Lc. 20:36), ac fel cyd-etifeddion â Christ (Rhuf. 8:17; Gal. 3:29; Tit. 3:7; Heb. 1:14, 6:17, 11:9; Iago. 2:5; 1Pedr 3:7). Mae’r Hen Destament yn cyfeirio at Angel YHWH fel Jehova ac fel Elohim (Ex. 3:2,4-6 lle mae’r Duw neu’r elohim arbennig hwn yn angel; cf. Sech. 12:8).

Dengys Salm 89:6-8 bod Cyngor o Sancteiddwyr (qedosim neu qadoshim, a ddefnyddir hefyd am y ddynolryw) yn cynnwys cyngor mewnol ac allanol. Deellir mai Cyngor nefolaidd Elohim Cyfiawnder yw hwn.  

1.5.1 Crist fel Mab Duw

Ceisiodd Satan demtio Crist mewn nifer o ffyrdd. Yn gyntaf, cyfeiriodd Satan at Grist fel Mab Duw (yn Mth. 4:3, 4:6; Lc. 4:3). Cyfeiriodd y demoniaid at Grist fel Mab i Dduw hefyd (yn Mth. 8:29; Lc. 4:41; Mc. 3:11). Ceisiodd Satan gael Crist i brofi ei statws fel Mab Duw trwy arddangos ei bŵer, gan fod Duw wedi rhoi gorchymyn i’w angylion i gadw Satan o dan reolaeth (yn Salm 91:11-12). Methodd Satan gadw at yr holl ffyrdd gan ychwanegu ar unrhyw adeg. Felly, wrth herio’r Ysgrythur, gwnaeth Satan ymgais i ladd Crist. 

Ni chywirodd Crist Satan na’r demoniaid ar unrhyw adeg trwy fynnu ei fod yn Dduw yn hytrach na Mab i Dduw. Yn wir, ni cheisiodd unrhyw ddemon haeru bod Crist yn Dduw Goruchaf hyd nes ei farwolaeth er mwyn sefydlu’r athrawiaeth dwyllodrus bod Crist yn Dduw yn yr un modd ag yr oedd Duw’r Tad yn Dduw ac o ganlyniad, sefydlu twyll y buasai Crist wedi ei gwrthbrofi pan yn fyw. Bwriad pob temtasiwn oedd tanseilio ufudd-dod Crist i Dduw ac, yn y pen draw, i chwalu’r Ysgrythur. Ceisiodd Satan gael Crist i’w addoli yntau. Addawodd reolaeth o’r blaned i Grist wedyn petai Crist yn ei addoli ef.

Ni heriodd Crist ei hawl i drosglwyddo rheolaeth y blaned iddo, na herio ei statws honedig fel y llywodraethwr. Yn hytrach, atebodd Crist

...mae’n ysgrifenedig: Cei addoli’r Arglwydd dy Dduw a’i wasanaethu Ef yn unig.

Yn hytrach na dweud wrth Satan y dylai Satan addoli Crist fe’i cyfeiriodd at y ddeddf. Ni honnodd Crist ar unrhyw adeg yn ystod ei weinidogaeth mai ef oedd Duw. Dywedodd mai ef oedd Mab Duw. Dyma’r rheswm y gyrrwyd ef i sefyll ei brawf. 

Ys dywedir yn Mathew 27:43

Ymddiriedodd yn Nuw; boed i Dduw ei waredu yn awr, os yw â’i fryd arno, oherwydd dywedodd, ‘Mab Duw ydwyf.’

A dyma lle yr ymbiliodd Crist ar Dduw i wireddu’r Ysgrythur yn Salm 22:1

Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?

Yn amlwg, nid oedd Crist yn ystyried ei hun yn Dduw. Mae awgrymu ei fod yn rhan o’r hanfod yr ymbiliodd arno, mewn ffurf gyfartal, yn rhan o rywbeth anhyboen, yn gwbl ddisynnwyr.

1.5.2 Athrawiaeth Anghrist

Cyfeirir at athrawiaeth Anghrist yn 1Ioan 4:1-2. Mae’r testun hynafol cywir i 1Ioan 4:1-2 wedi ei ail-lunio o Irenæus, Pennod 16:8 (ANF, Cyf. 1, fn. t. 443).

Hereby know ye the spirit of God: Every spirit that confesseth Jesus Christ came in the flesh is of God; and every spirit which separates Jesus Christ is not of God but is of Antichrist.

Dywed Socrates yr hanesydd (VII, 32, t. 381) bod y sianel wedi ei llygru gan rai oedd yn ceisio gwahanu dynoliaeth Iesu Grist oddi wrth ei dduwdod.

(Y Tad) ...Yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist (In. 17:3).

Hefyd, yn Luc 22:70 meddent oll Ti felly yw Mab Duw?

Atebodd hwy, Yr ydych yn dweud y gwir; myfi yw.

Fei’i cydnebir fel Mab Duw yn 

Mathew 27:54 lle y dywedasant Yn wir, Mab Duw oedd hwn.

Marc 1:1 sy’n nodi Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw.  

Luc 1:35 yn datgan bod y plentyn a genhedlir yn sanctaidd i’w alw, Mab Duw.

Mae deall bod Crist yn Fab i Dduw yn ddatguddiad gan Dduw.

Atebodd Simon Pedr, "Ti yw’r Meseia, Mab y Duw byw." Dywedodd Iesu wrtho, "Gwyn dy  fyd, Simon fab Jona, oherwydd nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn iti ond FY NHAD, sydd yn y nefoedd. (Mth. 16:16-17)

Hefyd, datgan Mathew yn 11:27

Traddodwyd i mi bob peth gan  FY NHAD. Nid oes neb yn adnabod y Mab, ond y Tad, ac nid oes neb yn adnabod y Tad, ond y Mab a phwy bynnag y mae’r Mab yn dewis ei ddatguddio iddo.

Felly mae’r Tad yn datguddio pethau i unigolion ac yn eu rhoi i Grist sydd wedyn yn datguddio’r Tad iddynt hwythau. 

1.5.3 Enw a Sofraniaeth Duw

Nid oes unrhyw amheuaeth bod Duw yn unigol ac yn sofran. Dengys Diarhebion 30:4-5 enw Duw a bod ganddo fab. 

Pwy a esgynnodd i’r nefoedd, ac yna disgyn?

Pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddwrn?

Pwy a rwymodd y dyfroedd mewn gwisg?

Pwy a sefydlodd holl derfynau’r ddaear?

Beth yw ei enw, neu enw ei fab, os wyt yn gwybod?

Y mae pob un o eiriau Duw [ELOAH] wedi ei brofi; y mae ef yn darian i’r rhai sy’n ymddiried ynddo.

Paid ag ychwanegu dim at ei eiriau, rhag iddo dy geryddu, a’th gael yn gelwyddog. 

Mae’r Beibl yn dehongli ei hun a darperir enw Duw yn uniongyrchol yn dilyn y cwestiwn ac mae’n amlwg nad endid wedi ei gyfansoddi gan Dad a Mab sydd yma, ond, yn hytrach, bod ganddo Ef fab.

Yn ychwanegol i hyn, mae’r Testament Newydd yn nodi’n glir mai’r Tad yw’r gwrthrych i’w addoli. Rhybuddiodd Crist y ddynes Samariaidd yn Ioan 4:21 bod amser yn dod pan na fyddwch yn addoli’r Tad nac ar y mynydd hwn (Samaria) nac yn Jerwsalem. Ond fe ddywed yn glir yn Ioan 4:23

Ond y mae amser yn dod, yn wir y mae yma eisoes, pan fydd y gwir addolwyr yn addoli’r Tad mewn ysbryd ac mewn gwirionedd, oherwydd rhai felly mae’r Tad yn eu ceisio i fod yn addolwyr iddo. 

Mae Crist yn enwi’r Tad yma fel y gwrthrych i’w addoli ac nid ef ei hun. Cabledd felly yw honni y dylid addoli’r Crist dyrchafedig yn adnod wyrdroëdig Ioan 3:14 lle y mae’n rhaid i Fab y Dyn gael ei ddyrchafu  fel y dyrchafodd Moses y sarff yn yr anialwch. Pwrpas y croesholiad oedd galluogi pob un sy’n credu i gael bywyd tragwyddol, nid er mwyn galluogi Crist i fod yn wrthrych i’w addoli, fel y cam-ddehonglir. O’r rhagosodiad camarweiniol hwn, honnir bod Cristionogion yn addoli corff a gwaed Crist yn y cymun, sydd hefyd yn anghywir.

Eloah yw Duw yr Hen Destament a Theml a Duw Iesu Grist y Testament Newydd. Y Deml yn Jerwsalem oedd Tŷ Eloah (Esra 4:24; 5:2,13,15,16,17; 6:3,5,7,8,16,17; 7:23). Ef oedd Eloah Israel (Esra 5:1; 7:15) ac Eloah’r nefoedd (Esra 5:8,12). Ef oedd gwrthrych yr aberth yn y Deml (Esra 6:10) lle y gosododd ei enw (Esra 6:12). Rhoddodd orchymyn i adeiladu’r Deml (Esra 6:14) ac fe safodd yr offeiriaid i’w wasanaethu (Esra 6:18; 7:24) yn ôl ei ewyllys (Esra 7:18). Y gyfraith yw cyfraith Eloah’r nefoedd (Esra 7:12,14). Mae’r rhai sy’n gwybod cyfraith Eloah i ddysgu pawb sydd heb ei gwybod (Esra 7:25) a dedfrydir y farn yn ôl cyfraith Eloah (Esra 7:26). Y bod hwn yw’r Tad sef yr Eloah unigol a’r Duw Goruchaf, Tad y Meseia a holl feibion Duw.

Pennod 2

Cynllun Iachawdwriaeth

2.1 Cwymp y Ddynoliaeth

Dywedodd Duw, “Gwnawn ddyn ar ein delw, yn ôl ein llun ni,” (Gen. 1:26-27). Melltithiwyd Adda ac Efa oherwydd iddynt anufuddhau. (Gen. 3:16-19). Fel canlyniad i’r gwrthryfel hwn, daeth pechod, ac o ganlyniad marwolaeth, ar y ddynoliaeth gyfan. (1Cor. 15:22; Rhuf. 5:12).

2.2 Iachawdwriaeth y Ddynoliaeth

Nid yw’r Arglwydd am i unrhyw gnawd farw. (2Pedr. 3:9). Er mwyn i’r ddynoliaeth allu dianc rhag y gosb am bechod, sef marwolaeth, sefydlodd Duw gynllun iachawdwriaeth a oedd yn cynnwys aberth ym marwolaeth ac atgyfodiad ei fab Iesu Grist. (In. 3:16). Mae’r cynllun yn un o gyneuaf dilyniannol a Christ yw blaenffrwyth y rhai sydd wedi huno.(1Cor. 15:20). Adlewyrchir cynllun iachawdwriaeth Duw yn y gwyliau, sef gwyliau’r Arglwydd, y Saboth. (Lef. 23).

2.3  Y Beibl fel Gwirionedd Ysbrydoledig

Dywedodd Crist Y mae’n ysgrifenedig: Nid ar fara yn unig y bydd dyn fyw, ond ar bob gair sydd yn dod allan o enau Duw. (Mth. 4:4; Lc. 4:4). Adnabyddir y Beibl fel ysgrythur (Dan. 10:21), ac fe’i cyfeirir tuag at iachawdwriaeth y ddynoliaeth ac amlygiad pŵer Duw (Ex. 9:16; Rom. 9:17). Y ffordd at iachawdwriaeth yw Iesu Grist (Rom. 10:11) yr un a broffwydwyd amdano yn yr Ysgrythur gan Moses a’r proffwydi (Lc. 24:27).  Y mae pob Ysgrythur wedi eu hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi, a cheryddu, a chywiro, a disgyblu mewn cyfiawnder. Felly y darperir dyn Duw â chyflawn ddarpariaeth ar gyfer pob math o weithredoedd da. (2Tim. 3:16).

Yr Ysgrythur yng nghyfnod Christ a’r apostolion oedd yr Hen Destament (Mth. 21:42; Mc. 12:10; Act 17:2). Yr Hen Destament yw’r Ysgrythur sydd wedi ei ysbrydoli gan Dduw, fel y cyfeirir ato yn 2Timotheus 3:16. Mae’r Testament Newydd yn ychwanegiad i’r Hen Destament. Nid yw’n cymryd lle yr Hen Destament.

Ysgrifennwyd yr Hen Destament yn ystod y dyddiau cynharaf er mwyn ein dysgu ni, er mwyn i ni, trwy ddyfalbarhad a thrwy eu hanogaeth hwy, ddal ein gafael yn ein gobaith (Rhuf. 15:4). Y mae gwallau yn deillio o wybodaeth wan o’r Ysgythrau hynny (Mth. 22:29; Mc. 12:24). Archwiliodd y Thesalonicaid yr Ysgythrau yn ddyddiol i brofi os oedd yr hyn a oedd wedi cael ei ddweud yn gywir. Ystyriwyd hyn i fod yn fonheddig (Act 17:11). Mae darlun cyfan y Beibl wedi ei gymryd o holl rannau'r Ysgrythur, argymhelliad ar argymhelliad, athro ar ôl athro, llinell ar ôl llinell (Eseia. 28:10). Mae’r Ysgrythur yn dangos mai Iesu oedd y Meseia neu Grist (Act 18:28). Crist, drwy'r Ysbryd Glân, sydd yn agor meddyliau'r disgyblion fel iddynt ddeall yr Ysgrythurau (Lc. 24:45).

Rhaid i Ysgrythurau'r Hen Destament gael eu cyflawni (Mth. 26:54,56; Mc. 12:10, 14:49) ac ni ellir eu torri (In. 10:35). Mae llawer o’r Ysgrythur wedi ei gyfeirio tuag at, ac wedi ei gyflawni yng Nghrist, neu’n mynd i gael ei gyflawni yng Nghrist yn ystod ei ail ddyfodiad (Dat. 1:7, 12:10, 17:14, 19:11-21), a fydd mewn pŵer a gogoniant (Mth. 24:30).

2.4 Edifeirwch a Thröedigaeth

I’r ddynoliaeth gael byw, neu i gael bywyd tragwyddol, mae Duw yn gofyn i’r ddynoliaeth edifarhau. Os nad yw yn edifarhau fe dderfydd y ddynoliaeth (Lc. 13:3,5).

Anfonwyd Crist i alw'r ddynoliaeth i edifarhau (Lc. 11:32). Dechreuodd Crist ei weinidogaeth yn dilyn carcharu Ioan y Bedyddwyr (Mth. 4:12). Carcharwyd Ioan beth amser wedi Pasg 28 AD (In. 3:22-24, 4:12) yn y bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Tiberius, pan ddaeth gair Duw at Ioan yn yr anialwch (Lc. 3:1). O’r amser hwnnw y dechreuodd Iesu bregethu’r genadwri hon: “Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agor.”(Mth. 4:17). Siarsiodd Crist ei ddisgyblion i bregethu efengyl edifeirwch, yn rhoi awdurdod iddynt dros y demondiaid neu eneidiau budur (Mc. 6:7,12; Lc. 10:1,17-20).

Dysgwyd edifeirwch fel y rhagarweiniad i gau pechod (neu ddrygioni) allan (Act 8:22) felly y daw oddi wrth yr Arglwydd dymhorau adnewyddiad, ac yr anfona Ef y Meseia a benodwyd i ni, sef Iesu (Act 3:19-20).

Anwybyddodd Duw amserau anwybodaeth, fel y gelwir nhw; ond, ar ôl Crist, mae’n gorchymyn bod pawb ym mhob man yn edifarhau, oblegid gosododd ddiwrnod pan fydd yn barnu’r byd mewn cyfiawnder (Act 17:30). Felly ymestynnai edifeirwch i’r Cenhedloedd (gweler hefyd Act 15:3).

Rhai i bawb edifarhau a throi at Dduw, a gweithredu yn deilwng o’u hedifeirwch (Act 26:20).

**Galwyd yr Eglwys yn Effesus i edifarhau ac i gofio o ble y syrthiodd, ac i wneud eto eu gweithredoedd cyntaf (Dat. 2:5). Yn yr un modd galwyd yr Eglwys yn Pergamum i edifarhau (Dat. 2:16) ynghyd â’r Eglwys yn Thyatira (Dat. 2:21-22) lle taflwyd apostolion ar wely gydag athrawon crefyddol ffug. Galwyd ar yr Eglwys yn Sardis i edifarhau yn ogystal, neu byddai Crist yn dod arnynt fel lleidr yn y nos ac ni fyddent yn gwybod pa awr y byddai’n ymddangos (Dat. 3:3). Mae Crist yn ceryddu ac yn disgyblu’r rhai sy’n caru Crist. Mae yn gorchymyn eu bod hwy (y Laodiceaidd yn yr achos hwn) yn selog ac yn edifarhau (Dat. 3:19). Mae edifeirwch yn broses barhaol i holl Eglwysi Duw, mae yn gyfrifoldeb arnom ni i gyd (Iago. 5:19-20).

2.5 Bedydd

Yn dilyn ei atgyfodiad rhoddwyd pob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear i Grist (Mth. 28:18). Gorchmynnodd fod ei ddisgyblion yn mynd ac yn gwneud disgyblion o’r cenhedloedd i gyd gan eu bedyddio yn enw'r Tad, y Mab ar Ysbryd Glân (Mth. 28:19). Gan ddysgu iddynt i wneud pob peth yr oedd Crist yn ei orchymyn. Ac felly y byddai ef gyda hwy bob amser hyd ddiwedd y byd (Mth. 28:20).

Rhaid i bawb edifarhau a chael eu bedyddio er maddeuant eu pechodau, ac yna fe dderbyniwch yr Ysbryd Glân yn rhodd (Act 2:38). Ni allwch dderbyn yr Ysbryd Glân oni bai eich bod yn edifarhau ac yn cael eich bedyddio ac felly yn cael eich geni eto. Heblaw eich bod wedi cael eich aileni ni allwch gael mynediad i Deyrnas Dduw (In. 3:3,5). Mae edifeirwch yn amodol i fedydd a derbyniad yr Ysbryd Glân. Felly mae bedydd baban yn rhesymegol i’r gwrthwyneb i’r Beibl. Roedd amod edifeirwch yn cael ei danlinellu gan genhadaeth Ioan y Bedyddiwr a oedd yn rhagflaenydd i fedydd yr Ysbryd Glân yng Nghrist (Mc. 1:4,8). Dywed Ioan y byddai Crist yn bedyddio'r rhai anedifeiriol (a ddisgrifir fel us) gyda’r Ysbryd Glân a gyda thân (Lc. 3:16-17). Cyflwynir yr Ysbryd Glân ar orchymyn Duw. Mae’r Ysbryd Glân yn treiddio i mewn i'r unigolyn ar gais, a chaiff ei arwyddocau gan osodiad y dwylo. Mae’r Ysbryd felly yn cael ei gyflwyno ym mhob elfen o’r gwaith. Mae’r Ysbryd Glân yn gweithredu cyn y bedydd wrth ymdrin â phob unigolyn. Mae’r Ysbryd yn tynnu'r etholedigion at Dduw trwy Grist (Heb. 7:25). Rhoddir blaenffrwyth yr Ysbryd i’r unigolyn wrth y bedydd, o Rhufeiniaid 8:23, sydd yn nodi yn glir nad yw’r mabwysiadu yn digwydd nes y rhyddheir y corff o gaethiwed. Felly rydym yn cael ein geni eto ond yn parhau i dyfu yn yr ysbryd yn ddyddiol yn Iesu Grist nes y cyrhaeddwn ogoniant Duw.

Y cyflwyniad hwn o’r Ysbryd Glân wrth fedyddio yw’r dŵr o ffynhonnau iachawdwriaeth a addawyd gan Dduw drwy ei broffwydi (Eseia. 12:3). Y dŵr hwn o’r Ysbryd Glân oedd addewid Duw i Jacob, fel y  cofnodwyd yn Eseia 44:3. Yr Arglwydd Dduw yw ffynnon y dŵr byw (Jer. 2:13, 17:13; also Sech. 14:8). Dyma afon dŵr y bywyd (Dat. 22:1). Wrth sôn am yr Ysbryd (In. 7:39), dywed Christ mai trwyddo ef y llifa’r dŵr bywiol (In. 4:10-14, 7:38 cf. Eseia. 21:3, 55:1, 58:11; Esec. 47:1). Mae Israel wedi ei lanhau yn ysbrydol gan ddŵr o Eseciel 36:25, sef y dŵr bywiol neu'r Ysbryd Glân. Ar hwn sydd yn ei ddymuno, derbynied ddŵr y bywyd yn rhad. (Dat. 22:17).

Pennod 3

Athrawiaethau ynglŷn â Chyfrifoldebau Dynol

3.1 Gweddi ac Addoliad

3.1.1 Duw fel Gwrthrych Gweddi ac Addoli

3.1.1.1 Gwrthrych Addoli

Mae safle sylfaenol ac arwydd egwyddorol yr etholedigaeth yn, ac wastad wedi bod yn un o undduwiaeth absoliwt a chred yn y berthynas israddol gyda Iesu Grist. Peidiwch ag ymgrymu i Dduw arall (Ex. 34:14; Deut. 11:16) neu fe’m difrodem (Deut. 30:17-18). Rhoddodd Duw ei orchymyn cyntaf

Myfi yw’r Arglwydd dy Dduw ath arweiniodd allan o wlad yr Aifft, o dy gaethiwed. Na Chymer dduwiau eraill ar wahân i mi (Ex. 20:2).

Yr ydym i garu'r Arglwydd ein Duw a’i wasanaethu Ef â’n holl enaid a’n holl galon, h.y. ein bodolaeth, ac yna bydd Duw yn anfon glaw yn ei bryd ar gyfer ein tir yn yr hydref a’r gwanwyn, a byddwn yn medi ŷd, a chael glaswellt yn ein meysydd ar gyfer ein gwartheg. Mewn geiriau eraill, fe gawn ddigonedd o fwyd (Deut. 11:13-15). Cawn gyfamod a thŷ Israel lle bydd Duw yn sefydlu ei gyfreithiau yn ein meddyliau a'u hysgrifennu ar ein calonnau. Ef yw ein Duw ac ni yw ei weision, yn ei addoli, drwy gadw ei gyfreithiau yn ein natur (Heb 8:10-13).

Yr ydym i addoli o flaen yr Arglwydd ein Duw (Deut. 26:10; 1Sam. 1:3, 15:25). A hyn yw’r bywyd tragwyddol: dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist (In. 17:3). Ymgrymwn i’r Arglwydd yn ysblander ei sancteiddrwydd; crynwn o’i flaen, yr holl ddaear. (Salmau. 29:2, 96:9). Y mae’r holl ddaear yn ymgrymu o flaen Duw ac yn canu mawl i’w enw (Salmau. 66:4). Dyma’r hyn a broffwydwyd ac a fydd yn digwydd. Bydd yr holl genhedlodd a greodd Ef yn ymgrymu o’i flaen yn crynu (Salmau. 96:9), ac anrhydeddu Ei enw oherwydd Ef yw ein unig Dduw (Salmau. 86:9-10), yr Arglwydd ein creawdwr. Oherwydd ef yw ein Duw a ninnau’n bobl iddo a defaid ei borfa (Salmau. 95:6-7). Sanctaidd yw Ef (Salmau. 99:5,9). Caiff y ddealltwriaeth o bwy yr ydym yn ei addoli ei brofi hefyd gan ddau arwydd, sydd, ynghyd â’r ddealltwriaeth o natur Duw yn ffurfio’r sylfaen i selio’r etholedigaeth. Y ddau arwydd yw: 

Y Saboth (o Ex. 20:8,10,11; Deut. 5:12). Mae’r Saboth yn arwydd rhyngom ni a’r Arglwydd, sydd yn ein cysegru (Ex. 31:12-14); a’r

Pasg. Mae’r Pasg yn arwydd neu sêl, o Exodus 13:9,16, lle mae’r Pasg, gan gynnwys Gwŷl y Bara Croyw, yn arwydd o gyfraith yr Arglwydd (Deut. 6:8) ac o’i adbryniad o Israel (Deut. 6:10) sydd, o’r Testament Newydd, yn ymestyn i bawb sydd yng Nghrist (Rhuf. 9:6, 11:25-26).

Pwrpas yr arwyddion cyfreithiol hyn, y Saboth a’r Pasg, yw amddiffyn yn erbyn eilunaddoliaeth (Deut. 11:16). Mae’r ddau arwydd hyn yn sêl ar law a thalcen etholedigion yr Arglwydd, ac ynghyd â’r Ysbryd Glân, mae'r rhain yn ffurfio’r sylfaen sy’n selio'r 144,000 o’r dyddiau diwethaf yn Datguddiad 7:3. Maent yn arwain i weddill y Dyddiau Sanctaidd.

Dywed Crist: Yr Arglwydd dy Dduw a addoli ac ef yn unig a wasanaethi (Mth. 4:10; Lc. 4:8). Gwasanaethu yw addoli mewn termau Beiblaidd felly.

Yn ofer y mae dyn yn addoli Duw drwy Ei anrhydeddu â’u gwefusau. (Mth. 15:8-9). Mae'r Arglwydd yn dyheu i ddynion Ei addoli mewn ysbryd a gwirionedd (In. 4:21-24). Oherwydd ni yw’r gwir enwaededig, ni sy’n ymfalchïo yng Nghrist Iesu (Phil. 3:3). Bydd Cyngor y rhai Hŷn, gan gynnwys Crist, yn addoli o flaen Duw a greodd bob peth a thrwy Ei ewyllys y daethant i fod (Dat. 4:10). Wrth orchymyn Crist, mewn cyfraith (Ex. 20:3) a thrwy ddatguddiad, fe addolwn Dduw (Dat. 22:9).

3.1.1.2 Gwrthrych Gweddi

Gweddïa’r ddynoliaeth i’r Arglwydd Dduw (Salmau. 39:12, 54:2) sydd yn gwrando a chlywed. A beth bynnag oll y gofynnwch amdano mewn gweddi, os ydych yn credu, fe’i cewch (Mth. 21:22). Crist oedd esiampl y ddynoliaeth o weddïo i’w Dduw ac ein Duw sydd yn Dad (Lc. 6:12). Mae enghraifft o sut i weddïo i’w weld yng Ngweddi’r Arglwydd, sydd yn lasbrint o strwythur y weddi a roddwyd gan Grist (Lc. 11:2-4).

Prif amcan yr etholedigaeth a'r weinyddiaeth yw gweddïo a gweinyddu neu wasanaethu'r Gair (Act 6:4). Roddir y cyfrifoldeb o fonitro gweddïau’r saint i Gyngor y rhai Hŷn (Dat. 5:8).

3.1.1.3 Gweddïo Unigol a Chasgliadol ar ran Eraill

Mae gweddi gasgliadol yn enghraifft o’r apostolion (Act 1:14). Mae'r Eglwys gyfan yn efelychu hyn (Acts 12:5).

Nid yw gweddi wedi ei gyfyngu i’r Eglwys yn unig, mae yno i’r rhai hynny sydd â brwdfrydedd ond nad ydynt yn oleuedig ac sydd ddim yn cydymffurfio i gyfiawnder. Crist yw diwedd ar y Gyfraith, ac felly i bob un sy’n credu y daw cyfiawnder Duw (Rhuf. 10:1-4).

Os ymunwch chwithau i’n cynorthwyo â’ch gweddi, bydd ein gwaredigaeth raslon, trwy weddi llawer, yn destun diolch gan lawer ar ein rhan (2Cor. 1:11). Rhaid gweddïo bob amser yn yr ysbryd (Eff. 6:18). Rhaid iddo fod yn ddyfal (Col. 4:2-4) ac mae hyn yn gymorth i allu sefyll yn gadarn mewn gwirionedd a chyfiawnder (Eff. 6:14).

Bydd gweddi a offrymir mewn ffydd yn iachau'r sawl sy’n glaf, a bydd yr Arglwydd yn ei godi ef ar ei draed, ac os yw wedi pechu, fe gaiff faddeuant. Felly cyffeswch eich pechodau i’ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, er mwyn i ni gael iachâd (Iago. 5:15-16).

3.2 Y Berthynas Rhwng Iachawdwriaeth a’r Gyfraith

3.2.1 Duw yw ein Craig

Yr Arglwydd yw ein craig, ein cadernid a’n gwaredydd, lle llocheswn (Salmau. 18:1-2). Fe ymddiriwn ynddo Ef ac nid oes gennym ofn (Isa. 12:2). Swyddogaeth Crist a’r disgyblion yw’r wybodaeth am waredigaeth (Lc. 1:77). Estynnir y wybodaeth yma i’r Eglwys lle mae'r saint yn gwarchod dirgelion Duw (1Cor. 4:1). Oddi wrth yr Iddewon mae iachawdwriaeth yn dod (In. 4:22), ond fe’i estynnir i'r rhai hynny sydd yn addoli Duw mewn ysbryd a gwirionedd (In. 4:23-24). Ni cheir iachawdwriaeth drwy neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i ddynion i ni gael ein hachub drwyddo (Act 4:12). Felly rhoddwyd iachawdwriaeth gan yr efengyl, pŵer Duw ar gyfer iachawdwriaeth i bawb sydd â ffydd, daeth i’r Iddew yn gyntaf ac wedyn i’r Groegwr. Yn yr efengyl, datguddir cyfiawnder Duw, a’r sawl sydd drwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw (Rhuf. 1:14-17). Oherwydd nid i ddigofaint y bwriadodd Duw ni, ond i feddu iachawdwriaeth drwy ein harglwydd Iesu Grist (1Thes. 5:9).

Canys y mae’r loes a dderbynnir yn ffordd Duw yn creu edifeirwch sydd yn arwain at iachawdwriaeth (2Cor. 7:10). Felly'r efengyl yw gair y gwirionedd, sef efengyl iachawdwriaeth, sydd yn selio edifeirwch yn yr Ysbryd Glân (Eff. 1:13). Ceir iachawdwriaeth drwy’r llyfrau sanctaidd. Y mae pob Ysgrythur wedi ei ysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi ac i edifarhau am iachawdwriaeth drwy ffydd yn Iesu Grist (2Tim. 3:15-16). Er mai Mab ydoedd, dysgodd ufudd-dod drwy’r hyn a ddioddefodd, ac wedi ei berffeithio, daeth yn ffynhonnell iachawdwriaeth dragwyddol i bawb sydd yn ufuddhau iddo (Heb. 5:8-9).

Felly, bydd Crist, ar ôl cael ei offrymu unwaith i ddwyn pechodau lawer, yn ymddangos yr ail waith, ond nid i ymdrin â phechod, ond er iachawdwriaeth i’r rhai sydd yn disgwyl amdano (Heb. 9:28). Mae iachawdwriaeth yn eiddo i ni gyd, a thraddodwyd y ffydd unwaith ac am byth i’r saint (Jwdas 3). Felly, nid oes datguddiad ar ôl yr hyn a roddwyd gan Dduw i Iesu Grist ac a drosglwyddwyd i Ioan. Mae'r oll sydd ei angen ar gyfer iachawdwriaeth y ddynoliaeth wedi ei gynnwys yn y Beibl. Duw sydd berchen iachawdwriaeth a phŵer ac mae Ef wedi ei ddatguddio i’w weision drwy Iesu Grist ac nid yw hyn i gael ei ddiwygio (Dat. 22:18-19).

Digwydd selio terfynol y saint trwy'r Ysbryd Glân, sydd, felly, wedi ei seilio ar gyfraith Duw fel y datgelir yn Hen Destament y Beibl, gan gychwyn gyda datguddiad yn y gyfraith.

Rhoddodd Crist y gyfraith yn Seion fel Angel y Cyfamod neu'r Presenoldeb, Angel Yahweh. Dywedodd

... hyd nes i nef a daear ddarfod, ni dderfydd yr un llythyren na’r un manylyn lleiaf o’r Gyfraith nes i’r cwbl ddigwydd. Am hynny pwy bynnag fydd yn dirymu un o’r gorchmynion lleiaf hyn ac yn dysgu i ddynion wneud felly, gelwir hwnnw’n fawr yn nheyrnas nefoedd ... (Mth. 5:18-19).

Felly nid yw Crist wedi ei eithrio o’r gyfraith. Cadwodd Crist y gyfraith a gorchmynnodd eraill i wneud yr un peth. Y gyfraith a’r proffwydi oedd mewn grym hyd at Ioan, oddi ar hynny, y mae’r newydd da am deyrnas Dduw yn cael ei gyhoeddi, a phawb yn ceisio mynediad iddi trwy drais  (neu yn cael ei phwyso iddi) (Lc. 16:16).

Ond byddai’n haws i’r nef a’r ddaear ddarfod nag i fanylyn lleiaf y Gyfraith golli ei rym (Lc. 16:16-17).

Rhoddwyd y Gyfraith drwy Moses, ond ni chedwir y Gyfraith (In. 7:19). Caiff pawb a bechodd heb y gyfraith drengi hefyd heb y Gyfraith, a chaiff pawb a bechodd a’r Gyfraith ganddo ei farnu trwy’r Gyfraith (Rhuf. 2:12) oherwydd mae'r rheini sydd yn cyflawni pechod yn gwneud anghyfraith, anghyfraith yw pechod (1In 3:4). Mae enwaediad yn dod o’r galon ac mae cadw daliadau'r gyfraith yn fesur o enwaediad. Y mae’r hwn sy’n cadw at y gyfraith wedi ei enwaedu o’r galon, tra bo’r hwn sydd wedi ei enwaedu ond sy’n torri’r gyfraith yn cael ei ystyried yn anffyddlon. Iddewon yw’r rhai sydd yn cadw'r gyfraith o’u calonnau gan fod yn Iddewon mewnol. Serch hynny, condemnir y rhai hynny sydd yn dweud eu bod yn Iddewon, pan nad ydynt (Dat. 3:9) ac fe’u gorfodir i ymostwng o flaen y saint. (Yn ogystal cyfieithir yr ymostwng yma i olygu addoli ac mae hyn yn berthnasol i Grist a’r etholedigaeth).

Y mae’r Gyfraith yn sanctaidd, a’r gorchymyn yn sanctaidd a chyfiawn a da (Rhuf. 7:12). Nid yw’r gyfraith felly yn achosi marwolaeth, ond yn hytrach, mae’n dwyn pechod o fewn unigolyn i anterth ei bechadusrwydd (Rhuf. 7:13).

Mae’r gyfraith yn ysbrydol ond mae’r ddynoliaeth yn gnawdol, wedi ei gwerthu yn gaethwas i bechod (Rhuf. 7:14). Y mae’r gwir sydd ynom yn ymhyfrydu yng Nghyfraith Duw (Salmau. 119:1 ff; Rhuf. 7:22). Mae’r Gyfraith yn arwain dynion at Grist sydd yn ddiwedd ar y Gyfraith (Rhuf. 10:4). Os ydych yn cael eich arwain gan yr Ysbryd, nid ydych o dan y gyfraith (Gal. 5:18). Nid oherwydd ei fod yn gwneud i ffwrdd â’r gyfraith ond yn hytrach mae’n galluogi’r gyfraith i gael ei gadw oddi wrth ddyheadau mewnol a gweithredoedd iawn, sydd yn rhan o’n natur (Heb. 8:10-13). Ceisir cyfraith Duw drwy ffydd nid drwy weithredoedd (Rhuf. 9:32). Mae cadw'r gorchmynion yn hanfodol er mwyn cynnal yr Ysbryd Glân sydd yn preswylio yn y rhai hynny sydd yn cadw gorchmynion Duw (1In. 3:24; Act 5:32). Felly mae’n amhosib bod yn Gristion a charu Duw a Christ heb gadw’r gyfraith. Mae hyn yn golygu cadw'r Saboth fel y pedwerydd gorchymyn. 

3.2.2 Iachawdwriaeth trwy Ras

Amlygwyd gras Duw i ddwyn gwaredigaeth i bob dyn, gan ein hyfforddi i ymwrthod ag annuwioldeb a chwantau bydol, a byw’n ddisgybledig a chyfiawn a duwiol, a disgwyl am y gwynfyd yr ydym yn gobeithio amdano yn ymddangosiad gogoniant ein Duw mawr a’n gwaredwr Iesu Grist (Tit. 2:11 gweler RSV Interlinear Greek-English New Testament gan Marshall). Crist felly yw ymddangosiad gogoniant Duw ein gwaredwr (Tit. 2:10). Mae gras felly yn gynnyrch o weithgaredd Iesu Grist.

Amddiffynnir yr Eglwys gan bŵer Duw drwy ffydd am iachawdwriaeth sydd yn barod i gael ei ddatguddio yn yr amser diwethaf (1Pedr. 1:5). Diben ffydd yw iachawdwriaeth yr enaid. Proffwydodd y proffwydi ynglŷn â iachawdwriaeth ond nid oeddent yn ymwybodol o’r amser na pherson y Meseia pan oeddent yn proffwydo ei ddioddefaint a’r gogoniant diweddarach (1Pedr. 1:9-10).

Daeth pechod i’r byd trwy Adda ac fe deyrnasodd y pechod hwnnw o Adda hyd Moses. Marwolaeth oedd canlyniad pechod (Rom. 5:12). Roedd pechod yn y byd cyn bod y Gyfraith wedi ei rhoi i Moses (Rhuf. 5:13). Felly roedd canlyniadau'r gyfraith yn wybyddus o gyfnod Adda, oherwydd ni chyfrir pechod lle nad oes cyfraith. Llennwyd gras o ganlyniad, oherwydd adbryniant dyn o bechod a’r gyfraith. Wrth i bechod gynyddu, o dan y gyfraith, cynyddodd gras (Rhuf. 5:15-21). Oherwydd ufudd-dod un dyn bydd nifer yn cael eu gwneud yn gyfiawn drwy ras sydd yn teyrnasu, gan ddwyn dynion i fywyd tragwyddol trwy Iesu Grist (Rhuf. 5:20-21).

Nid yw’r rhai sydd yng Nghrist Iesu dan gollfarn o unrhyw fath (Rhuf. 8:1). Cyflawnir y Gyfraith gennym ni, sy’n byw ar wastad yr Ysbryd (Rhuf. 8:4).

Mae’r ysbryd yn arwain y meddwl yn ôl ei bwrpas (Rhuf. 8:5). Oherwydd mae’r meddwl sydd a’i fryd ar y cnawd yn elyniaeth tuag at Dduw. Nid yw, ac ni all fod yn ddarostyngedig i gyfraith Duw (Rhuf. 8:7). Felly, adnebir y meddwl cnawdol neu didroëdig yn ôl ei wrthwynebiad i gadw cyfraith Duw.

Mae Ysbryd yr Hwn a gyfododd Iesu wrth y meirw yn rhoi bywyd newydd trwy ei Ysbryd, sy’n ymgartrefu ynoch chwi (Rhuf. 8:11). Y mae pawb sy’n cael eu harwain gan Ysbryd Duw yn feibion Duw (Rhuf. 8:14) ac mae hyn drwy ras Duw. Oherwydd trwy Moses y rhoddwyd y gyfraith, ond gras a gwirionedd, trwy Iesu Grist y daethant (In. 1:17). Felly yr ydym yn llefain Abba neu Dad gan ddatblygu'r un fabolaeth (Rhuf. 8:15) a rhoddwyd i’n brawd Iesu Grist.

Ni yw’r gyfraith ei hun yn rhoi cyfiawnhad. Caiff dyn ei gyfiawnhau trwy ffydd yn Iesu Grist (Gal. 2:16). Mae’n byw bywyd trwy ffydd ym Mab Duw (Gal. 2:20). Trwy gyfraith bûm farw i gyfraith, er mwyn byw i Dduw (Gal. 2:19). Nid ydym yn dirymu gras Duw drwy gadw’r gyfraith oherwydd nid trwy gyfraith y cawn ein cyfiawnhau (Gal. 2:21). Rydym yn cadw at y gyfraith oherwydd bod yr Ysbryd yn ein harwain ac mae’r gyfraith yn deillio o natur Duw, ac rydym ni wedi dod yn gyfranogion o’r natur ddwyfol hon (2Pedr. 1:4), fel Crist.

Fe’n hachubir ni nid trwy gyfraith ond trwy ras Iesu Grist (Act 15:11). Nid oes gan bechod unrhyw arglwyddiaeth dros yr etholedigion, oherwydd nid ydynt o dan deyrnasiad cyfraith ond yn hytrach dan deyrnasiad gras, ac maent yn weision i Dduw (Rhuf. 6:14,15). Serch hynny, nid ydym yn pechu drwy gamweddu’r gyfraith, rydym yn weision i Dduw ac yn gyfiawn ac heb bechod, gan ddod yn ufudd o’r galon i’r safon o ddysgu y rhwymwyd ni iddo (Rhuf. 6:17-18). Cynt roeddent yn farw yn ein camweddau, nawr rydym yn fyw gyda Christ trwy ras (Eff. 2:5). Cyfododd Crist ni a’n gosod i eistedd gydag ef yn y nefoedd, er mwyn i Dduw ddangos, yn yr oesoedd sy’n dod, gyfoeth difesur ei ras trwy ei diriondeb i ni yng Nghrist Iesu (Eff. 2:6-7). Trwy ras yr ydym wedi ein hachub. Nid gwaith unigolyn yw hyn; rhodd gan Dduw ydyw, nid yw’n dibynnu ar weithredoedd ac felly ni all neb ymffrostio (Eff. 2:9). Felly rydym yn cadw’r gyfraith trwy Ysbryd Duw a’i ras.

3.2.3 Rhwymedigaeth yn ôl y Gyfraith

Mae rheidrwydd parhaol i gadw'r gyfraith, nid yw’r gyfraith yn darfod nac yn cael ei diwygio (Mth. 5:18; Lc. 16:17). Yn amser Crist ni lynwyd at y gyfraith yn gywir (Jn. 7:19), newidiodd gan draddodiad (Mth. 15:2-3,6; Mc. 7:3,5,8-9,13) i mewn i faich gan athrawon Iddewig y cyfnod, gan osod prawf ar Dduw (Act 15:10).

Mae rheidrwydd parhaol arnom oddi fri i gadw gorchmynion Duw. Maent yn bodoli ac ni therfynir hwynt hyd ddiwedd yr oesau yng nghyd-destun bodolaeth yr hil ddynol.

3.2.3.1 Pam bod Cristnogion yn Cadw'r Gyfraith

Achubir Cristnogion gan ras nid gan y gyfraith. Pam felly ei bod yn acwsmatig eu bod yn cydnabod a chadw’r gyfraith? Oherwydd:

Mae Cyfraith Duw yn deillio o ddaioni arhosol Ei Natur.

Mae cyfraith Duw yn deillio o natur Duw ac felly mae yn parhau am byth oherwydd mae Duw yn ddigyfnewid ac yn hanfodol Dda fel gwraidd daioni terfynol. Yn Marc 10:18 dywed Crist: Pam yr wyt yn fy ngalw i yn dda? Duw yn unig sydd yn dda neu Pam gofyn ynglŷn â beth sydd yn dda? Un yn unig sydd yn dda. Os mynni i fynd i mewn i’r bywyd, cadw’r gorchmynion (Mth. 19:17). Mae daioni Duw yn ein harwain ni tuag at edifeirwch (Rhuf. 2:4). Mae natur Duw yn ddigyfnewid. Mae’r lluoedd nefolaidd yn rhannu Ei natur. Felly, maent yn dod yn gyson â natur ddwyfol a daioni.

Yn y modd hwn, yr un yw Iesu Grist ddoe, heddiw ac am byth (aioonas) (Heb. 13:8). Daw'r etholedigion, drwy ddod yn gyfranogion o’r natur ddwyfol (2Pedr. 1:4), yn rhan o offeiriadaeth ddwyfol, offeiriadaeth Melchisedek sydd yn anhrosglwyddadwy (aparabaton) neu yn ddigyfnewid ar hyd yr oesoedd (aioona) (Heb. 7:24). Mae Crist yn gallu achub y rhai hynny sydd yn dynesu at Dduw trwyddo ef (gweler Heb. 7:25 Greek-English Interlinear gan Marshall). Ond nid yw ef yn wrthrych addoliad na’r Duw sy’n gorchymyn trwy ewyllys.

Mae cyfraith Duw i gael ei ddilyn drwy ffydd nid trwy weithredoedd (Rhuf. 9:32). Mae gennym Gyfamod Newydd lle mae’r Arglwydd yn sefydlu Ei gyfreithiau yn ein meddyliau ac yn eu hysgrifennu hwy ar ein calonnau. Ef yw ein Duw a ni yw Ei weision, yn Ei addoli, drwy gadw Ei gyfreithiau yn ein natur (Heb. 8:10-13). Felly, nid dad-ddyneiddio sydd yn cyfri. Ond cadw gorchmynion Duw sydd yn ein henwaedu (1Cor. 7:19) fel Cristnogion ac fel aelodau o’r Israel ysbrydol. Y mae'r rhai hynny sydd yn cadw gorchmynion Duw yn cynddeiriogi'r ddraig. Mae cadw gorchmynion Duw yn eu hadnabod yn yr erledigaeth (Dat. 12:17). Dyma yw sail dyfalbarhad y saint, y rhai sy’n cadw gorchmynion Duw a’u ffydd yn Iesu (Dat. 14:12).

3.2.3.2 Cristnogion fel Teml Duw

Y saint yw Teml neu gysegrfa, neu naos Duw ac mae Ysbryd Duw yn trigo ynddynt. Os oes unrhyw un yn dinistrio teml Duw, bydd Duw yn ei ddinistrio yntau, oherwydd y mae teml Duw yn sanctaidd, a chwi yw’r deml honno (1Cor. 3:16-17). Am y rheswm hwn, mae rhwymedigaeth ar Gristnogion i gynnal eu cyrff mewn cyflwr iach fel llestr i Ysbryd Duw. Oherwydd dywedodd Duw y byddai’n byw ynom ni, ac yn rhodio yn ein plith, ac Ef fydd ein Duw. Yr ydym i gael ein cadw yn sanctaidd ac ar wahân. Duw fydd ein Tad ac rydym ni i fod yn blant iddo Ef (2Cor. 6:16-18 yn dyfynnu nifer o destynnau HD; Lef. 26:12; Esec. 37:27; Eseia. 52:11; 2Sam. 7:14).

Am y rheswm yma, ni ddylai Cristnogion ymgysylltu ag anghredinwyr (2Cor. 6:14). Fe ddylen ymlanhau oddi wrth bob peth sy’n halogi cnawd ac ysbryd, gan berffeithio eu sancteiddrwydd yn ofn Duw (2Cor. 7:1). Felly fe’u dewisir o’r cychwyn ac fe’u hachubir drwy sancteiddrwydd a chred yn y gwirionedd (2Thes. 2:14). Felly mae’r gwirionedd yn orfodol ar gyfer iechyd meddyliol ac yn nodwedd i’r etholedigion. Gellir gweld o’r datblygiad hwn bod gan gyfreithiau cyffredinol y Beibl ystyr a phwrpas priodol. Mae mesuriad Teml Duw yn digwydd mewn cydweddiad â’r cyfreithiau hyn (Dat. 11:1).

3.2.4 Y Deg Gorchymyn

Mae’r Eglwys yn rhwym i gadw'r Deg Gorchymyn sydd i’w gweld yn Exodus 20:1-17 a Deuteronomium 5:6-21.

Y gorchymyn cyntaf yw

Myfi yw’r Arglwydd dy Dduw, a’th arweiniodd allan o wlad yr Aifft, o dy gaethiwed. Na chymer dduwiau eraill ar wahân i mi.

Duw'r Tad yw’r unig wir Dduw (In. 17:3) ac nid oes elohim o’i flaen, nac yn hafal ag Ef. Mae addoli neu weddïo i unrhyw endid arall, gan gynnwys Iesu Grist yn waharddedig.

Yr ail orchymyn yw

Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na’r ddaear isod nac yn y dŵr dan y ddaear, nac ymgryma iddynt na’u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr arglwydd dy Dduw, yn Dduw eiddigeddus; yr wyf yn cosbi’r plant am ddrygioni’r tadau hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai sy’n fy nasau, ond yn dangos trugaredd i filoedd o’r rhai sy’n fy ngharu ac yn cadw fy ngorchmynion.

Mae felly yn waharddedig i wneud ffigyrau neu geisio efelychu unrhyw ddisgrifiad i’w haddoli neu i’w defnyddio fel symbolaeth grefyddol. Mae’r groes felly wedi ei gwahardd fel symbol i’r Eglwys.

Mae’r gorchmynion eu hunain yn ffurfio rhan o adnabyddiaeth y system grefyddol ac felly maent i gyd yn ymgloddedig.

Y trydydd gorchymyn yw

Na chymer enw’r Arglwydd dy Dduw yn ofer, oherwydd ni fydd yr Arglwydd yn ystyried yn ddieuog y sawl sy’n cymryd ei enw yn ofer.

Mae enw'r Arglwydd Dduw yn cyfleu awdurdod ac felly nid ymdrin â chabledd yn unig y gwna’r gyfraith hon, ond mae’n ymestyn i gamddefnydd o awdurdod yr Eglwys a phawb sydd yn honni i ymddwyn yn ôl gorchmynion Duw trwy Iesu Grist.

Y pedwerydd gorchymyn yw

Cofia’r dydd Saboth, i’w gadwn gysegredig. Chwe diwrnod yr wyt i weithio a gwneud dy holl waith, ond y mae’r seithfed dydd yn Saboth yr Arglwydd dy Dduw; na wna ddim gwaith y dydd hwnnw, ti na’th fab, na’th ferch, na’th was, na’th forwyn, na’th anifail, na’r estron sydd o fewn dy byrth, oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear, y môr a’r cyfan sydd ynddo, ac ar y seithfed diwrnod fe orffwysodd; am hynny bendithiodd yr Arglwydd y dydd Saboth a’i gysegru.

Mae’r seithfed dydd Saboth felly yn fandadol i’r ffydd. Ni all unrhyw Gristion wasanaethu Duw heb anrhydeddu'r Saboth, sef dydd Sadwrn y calendr cyfoes. Mae sefydlu diwrnod arall o addoliad yn hytrach na’r seithfed dydd yn torri'r gorchymyn hwn a daw yn symbol o eilunaddoliaeth sydd y tu allan i ewyllys Duw. Mae’n weithred o wrthryfel ac felly mae cyfwerth â swyngyfaredd (1Sam. 15:23). Wedi ei gysylltu â’r ail orchymyn, sydd yn atgyfnerthu'r pedwerydd, fe ddaw yn eilunaddoliaeth. Mae sefydlu calendr sydd yn addasu'r wythnos ar sail cylchdro yn cael yr un effaith.

Mae’r pedwar gorchymyn cyntaf hyn yn penderfynu'r berthynas rhwng dyn a Duw, ac fe’i diffinnir o dan y prif ben, pen cyntaf y gyfraith, fel a ganlyn; câr yr Arglwydd dy dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid â’th holl feddwl (â’th holl nerth Mc. 12:30). Dyma’r gorchymyn mwyaf a’r cyntaf (Mth. 22:37-38).

Mae uniaethiad llwyr â Duw yn deillio o ymlyniad ffyddlon i’r gorchmynion hyn gan osgoi unrhyw weithred a all eu peryglu.

Yr ail orchymyn mawr yw

Câr dy gymydog fe ti dy hun. Nid oes gorchymyn sydd yn fwy na rhain (Mth. 22:39; Mc. 12:31).

Mae’r ail orchymyn mawr wedi ei ymgorffori yn y perthnasau a ddatblygwyd o dan y chwe gorchymyn diwethaf o’r deg, ac mae'r rhai hyn yn cyfeirio at ddynoliaeth.

Y pumed gorchymyn yw

Anrhydedda dy dad a’th fam, er mwyn amlhau dy ddyddiau yn y wlad y mae’r Arglwydd yn ei rhoi iti.

Perthynas y teulu yw sylfaen unrhyw bobl ac mae’n adlewyrchiad o’r agweddau sydd yn cael eu harddangos yn y strwythur crefyddol ehangach.

Y chweched gorchymyn yw

Na ladd.

Barnir Cristnogion wrth y gyfraith uwch o beidio bod yn flin gyda’i brawd. Trwy lochesu dicter rydych yn gwneud trais a’ch cymydog. Bydd pwy bynnag sydd yn ddig gyda’i frawd yn atebol i farn, pwy bynnag sydd yn sarhau ei frawd bydd yn atebol i’r llys, a phwy bynnag sy’n dweud wrtho, ‘Yr ynfytyn’, bydd yn ateb am hynny i Gehenna  (neu yn nhân uffern) (Mth. 5:22).

Y seithfed gorchymyn yw

Na odineba.

Mae Cristnogion sy’n edrych mewn blys ar wraig eisoes wedi cyflawni godineb â hi yn eu calonnau (Mth. 5:28).

Yr wythfed gorchymyn yw

Na ladrata.

Lladrata yw gwneud trais yn erbyn eich cymydog a thorri eich perthynas â Duw.

Y nawfed gorchymyn yw

Na ddwg gamdystiolaeth yn erbyn dy gymydog.

Mae “righteousness” a “justice” yn y Saesneg yn golygu'r un peth yn y Gymraeg - cyfiawnder, ac mae’r un yn wir yn Hebreig. Felly mae’r ddau beth yn mynd gyda’i gilydd i Gristnogion. Mae hydreiddiad cyfiawnder drwy dystiolaeth ffug yn ymyrryd â iachawdwriaeth y Cristion.

Y degfed gorchymyn yw

Na chwennych dŷ dy gymydog, na’i wraig, na’i was, na’i forwyn, na’i ych, na’i asyn, na dim sy’n eiddo i’th gymydog.

Mae trachwant yn broses sydd yn gosod nwyddau materol neu berthynas rhywiol uwchben perthynas person â Duw. Yn yr achos yma felly mae’n gyfystr ag eilunaddoliaeth. Mae’n gwneud gwrthrych arall yn ganolbwynt dyhead. Yn y cyd-destun hwn, mae'r gorchmynion yn gylchol yn yr ystyr bod trachwant yn rhagflaeniad i dorri cyfreithiau eraill, ac felly mae torri un elfen yn torri’r gyfraith yn gyfan gwbwl. Does dim pechod cymharol felly. Mae pechod yn drosedd o’r gyfraith. Rhoddodd Grist esboniad o wir ddealltwriaeth o’r gyfraith yn Mathew 5:21-48; wrth ymdrin ag Exodus 20:13; Deuteronomium 5:17, 16:18 a hefyd Luc 12:57-59.

Mae’r gorchmynion i gael eu dysgu gan bob rhiant i’w plant yn barhaol. Maent i fod yn arwydd ar y dwylo ac ar y talcen (drwy feddylfryd a thrwy weithredoedd) ac i gael eu gosod ar byst drysau'r tai (Deut. 7:7-9).

3.2.5 Cyfreithiau eraill yn Llywodraethu Ymddygiad Dynol

3.2.5.1 Cyfreithiau Bwyd

Gellir dod o hyd i’r cyfreithiau bwyd yn Leviticus 11:1-47 a Deuteronomium 14:4-21. Maent wedi eu seilio ar reoli’r corff dynol mewn cyflwr iach ac wedi eu seilio ar egwyddorion ffisegol iach. Y gorchymyn yw bod yn sanctaidd ac i’r corff fod yn llestr iach i’r Ysbryd Glân. Mae sail wyddonol gadarn i’r cyfreithiau bwyd. Mae Deuteronomy 12:16 yn gwahardd i ni fwyta gwaed, ac mae Lefiticus 3:17 yn gwahardd bwyta gwaed a braster gyda’i gilydd. Nid ydym i fwyta dim a fu farw neu a larpiwyd (Esec. 44:31). Mae gwaharddiad bwyta ffrwyth o fewn y cyfreithiau sy’n llywodraethu ffrwyth i’w weld yn Lefiticus 19:23-26. Mae gan y cyfreithiau hyn oblygiadau ysbrydol.

3.2.5.2 Y Saboth

Mae Saboth y seithfed diwrnod i gael ei gadw (from Ex. 20:8-11; Deut. 5:12-15) fel arwydd o ffyddlondeb i orchymyn yr Arglwydd ac un o’r deg gorchymyn. Mae'r rhain yn gerfluniau anraddedig parhaol i’r holl bobloedd. Mae’r Saboth yn sanctaidd. Rhoddir marwolaeth i bwy bynnag sy’n ei halogi ac fe’u gwahanir oddi wrth eu pobl (Ex. 31:14-15). Am hynny bydd pobl Israel yn dathlu’r Saboth ac yn ei gadw dros y cenhedloedd yn gyfamod tragwyddol, gan gydnabod mai Ef yw’r creawdwr (Ex. 31:15-16). Mae Cristnogion i gyd yn Israel ysbrydol ac mae bob Cenedl i ddod i mewn i genedl Israel. Felly, mae’r Saboth yn arwydd rhwng Duw a’i bobloedd am byth. Y gosb am anghysegru’r Saboth yw marwolaeth o ganlyniad i golli’r Ysbryd Glân a chael eich gyrru i’r ail atgyfodiad (gweler Dat. 20:5). Mae’r Saboth yn hyfrydwch a dydd sanctaidd yr Arglwydd yn ogoneddus. Nid yw’n ddiwrnod o bleser segur ond o gynulliad cysegredig (Eseia. 58:13-14). Peidiwch â chario baich na gweithio ar y Saboth (Jer. 17:21-22).

Cadwodd ein Harglwydd y Saboth yn ystod ei fywyd (Mc. 6:2). Cadwodd yr apostolion y Saboth (a diwrnodau sanctaidd) ac rydym ni i gadw'r Saboth. Bydd yr Arglwydd yn ail-gyflwyno'r Saboth, newydd loer a diwrnodau Sanctaidd drwy rym y gyfraith unwaith eto yn yr atgyfodiad milflwyddol o’r dyddiau olaf o dan lywodraeth y Meseia, gan gosbi cenhedloedd sy’n gwrthod (Eseia. 66:22-23; Sech. 14:16-19).

3.2.5.3 Y Lleuadau Newydd

Mae’n ofynnol i gadw lleuadau newydd o dan y gyfraith (Num. 10:10, 28:11-15; 1Cron. 23:31; 2Cron. 2:4, 8:13, 31:3). Terfynir masnachu ar yr adeg yma fel y gwneir ar y Saboth (Amos 8:5). Cadwodd Israel y newydd loer (Eseia. 1:13-14; Esra 3:5; Neh. 10:33; Salmau. 81:3; Hos. 2:11) fel y gwnaeth yr Eglwys dros y canrifoedd. Cadwodd yr Eglwys y newydd loer ynghyd â’r Saboth a’r Diwrnodau Sanctaidd (Col. 2:16). Cedwir y newyddloerau yn yr atgyfodiad o dan y Meseia fel y Saboth (Eseia. 66:23; Esec. 45:17, 46:1.3.6).

3.2.5.4 Y Diwrnodau Sanctaidd Blynyddol

Gwelir y Diwrnodau Sanctaidd Blynyddol yn Lefiticus 23:1-44 a Deuteronomium 16:1-16. Mae’r Diwrnodau Sanctaidd Blynyddol hyn yn adlewyrchu cynllun iachawdwriaeth yr Arglwydd. Mae’r Diwrnodau Sanctaidd yn cynnwys:

Y Pasg a’r Bara Croyw

Y Pentecost

Gŵyl yr Utgyrn

Dydd y Cymod

Gŵyl y Pebyll neu Ŵyl y Cynnull

Dydd y Cymod

Mae'r rhain yn orfodol ac maent yn cario anghenion penodol fel arwydd rhwng Duw a’i bobl. Ystyrir Diwrnod Sanctaidd yn Saboth.

3.2.5.5 Priodas

Mae priodas yn sefydliad sanctaidd. Mae’n cynrychioli undeb Crist â’r Eglwys o dan Dduw (Dat. 19:7,9). Caiff y ddameg hon ei hesbonio yn Mathew 22:2-14. Mae’n sefydliad cynyddol gyda Christ (Mth. 25:10) wedi ei seilio ar barodrwydd ysbrydol. O amser y cymodi terfynol ni fydd priodas mwyach. Crëwyd priodas ar gyfer dyn ac nid yw’n sefydliad i’r lluoedd (Mth. 22:30). Felly, pan atgyfodant oddi wrth y meirw, ni phriodant ac ni phriodir hwy (Mc. 12:25). Oherwydd dyma pryd y cyfrir hwynt yn deilwng i gyrraedd yr oes nesaf drwy atgyfodiad. Yna maent yn hafal ag angylion ac yn Feibion i Dduw (Lc. 20:34-36).

Felly, mae priodas yn sefydliad wedi ei gynllunio ar gyfer pobl, a bydd yn peidio â bodoli ar ôl i gyfnod y ddynoliaeth o’r cread ddod i ben. Oddi ar gread Adda, sefydlwyd y sefydliad fel bod dyn yn gadael ei dad a’i fam, ac yn glynu wrth ei wraig, a dod yn un cnawd (Gen. 2:24).

Mae gwraig yn wraig drwy gyfamod ac mae’r Arglwydd yn dymuno cael disgynyddion duwiol o hyn. Mae’r Arglwydd yn casáu ysgariad, sydd yn drais (Mal. 2:16). Caniatawyd ysgariad gan Moses, ond nid yw Cristnogion i ysgaru eu priod oni bai am anniweirdeb (Mth. 5:31-32). Nid yw dyn i wahanu beth y mae Duw wedi ei uno (Mth. 19:3-12). Tra bo priod anghrediniol yn parhau i fyw gyda phriod crediniol yna dylai'r briodas barhau (1Cor. 7:10-16).

3.2.6 Goruchwyliaeth Ariannol

3.2.6.1 Tuag at Dduw

Gwelir cyfrifoldeb ariannol tuag at Dduw yn Deuteronomuim 12:5-19. Mae’n gyfrifoldeb ar bob Cristion i gefnogi digwyddiadau’r Eglwys. Mae’r egwyddor yn deillio o’r degwm, fel y cynigwyd i Dduw drwy’r weinidogaeth a thrwy’r Lefiaid o feddiannaeth Israel (Deut. 12:9-14) ac mae’n rhagflaenu’r Deml. Mabwysiadwyd treth y deml ar y Cymod. Mabwysiadwyd ardoll fel y dywedir yn Nehemiah 10:32. Mae’r gwaith yn gyfredol drwy sefydliad teyrnasiad milflwyddol y Meseia (Mal. 3:1-6). Yn Malachi 3:7, mae Duw yn gorchymyn i’r genedl ddychwelyd ato Ef ac yna y bydd Ef yn dychwelyd. Effeithir y dychwelyd hwn gyda gwaith Duw a’r modd yr ariannir y gwaith hwnnw gan y degymau (Mal. 3:7). Mae methiant i dalu degymau yn gyfystyr â dwyn gan Dduw (Mal. 3:8-10).

Mae taliad y degymau yn sicrhau y gall gwaith Duw barhau ac y bydd Duw yn tywallt bendith arnom ac yn gwarchod y tir (Mal. 3:10-12).

Mae cyfrifoldeb yr Eglwys i Dduw yn cwympo ar yr apostolion, hyd yn oed os nad yw hyn yn cael ei weithredu bob tro, neu’n cael ei ildio gan y weinidogaeth (2Cor. 12:13-18). Penododd Crist yr hynafgwyr bob yn ddau, ac roeddent i gael cefnogaeth yn eu gwaith gan y cynulleidfaoedd yr oeddynt yn cydweithio â hwynt (Lc. 10:1-12). Dylai’r sawl sy’n cyflawni gwasanaethau’r deml ac sy’n cyhoeddi’r efengyl dderbyn cefnogaeth gan yr efengyl (1Cor. 9:13-14). Cyfrifoldeb yr Eglwys yw darparu ar gyfer y rhai sydd yn llafurio ym myd pregethu a hyfforddi yn llawn amser (1Tim. 5:17-18; cf. Deut 24:14-15).

Mae degymau yn dderbyniol i Dduw, ar wahân i adegau pan maent yn deillio o elw anonest neu pan yr aberthir hwynt i eilunod (1Cor. 10:27). Talir degymau i’r Eglwys fel y gellir helpu ei haelodau sydd mewn angen (1Tim. 5:9-10,16). Mae degymau i gael eu casglu ar sail cynhadledd leol ac mae degwm y degwm i gael ei dalu i bencadlys y gynhadledd fel y dywedir yn Numeri 18:26 a Nehemiah 10:37-39. Mae’r gyfraith ar blaenffrwydd yn mynnu taliad heb oedi (Ex. 22:29). Ar gychwyn y wledd rhaid mynd a’r cyntaf o’r blaenffrwyth yn syth o flaen Duw, yn enwedig ar noson gyntaf y Cynhaeaf neu Ŵyl y Pebyll (Ex. 23:19). Mae’r cyntaf anedig hefyd yn sanctaidd i’r Arglwydd (Num. 18:15-18).

3.2.6.2 Tuag at Eraill

Os nad yw dyn yn darparu ar gyfer ei berthnasau, ac yn arbennig ei deulu ei hun, y mae wedi gwadu’r ffydd ac y mae’n waeth nag anghredadun (1Tim. 5:8).

Nid yw Cristion i orthrymu na chelu cyflog unrhyw berson (Deut. 24:15). Maent i dalu unrhyw arian dyledus ac, yn y flwyddyn Saboth, maent i faddau dyledion sy’n ddyledus gan un arall o’r ffydd (Deut. 15:1-3; Neh. 10:31).

Rheolir degymu am y wledd gan nifer o destunau. Nid yw’r ail ddegwm i gael ei ddifa o fewn y cartref ond mewn lle a ddewisir gan yr Arglwydd (Deut. 12:17-19).

Yn y drydedd flwyddyn o’r gylchred Sabothol, mae pob degwm i gael ei dalu ar gyfer lles y tlawd (Deut. 14:28, 26:12). Mae trydedd flwyddyn degwm yn cwympo ar y blynyddoedd 1994-95, 2001-02, 2008-09, 2015-16, 2022-23, 2030-31. Y flwyddyn gysegredig 2030-31 yw’r  drydedd flwyddyn degwm cyntaf o’r gylchred Jiwbilî neu’r Mileniwm newydd. Mae hyn yn seiliedig ar flynyddoedd y jiwbilî yn cwympo ym mlynyddoedd 27-28 a 77-78 o Eseciel 1:1. Gall trydedd rhwymedigaeth y degwm gael ei ildio neu ei amrywio yn ôl cyfansoddiad yr Eglwys mewn ardaloedd lle mae’r system nawdd cymdeithasol yn ddigonol.

Mae blwyddyn y Saboth yn flwyddyn o orffwys i’r tir, y gwinllannoedd ar perllannoedd felly gall y tlawd fwyta a’r anifeiliaid fwyta (Ex. 23:10-11). Mae blynyddoedd y Saboth yn glanio ar flynyddoedd cysegredig 1998-99, 2005-06, 2012-13, 2019-20, 2026-27 gyda blwyddyn y Jiwbilî yn glanio yn 2027-28.

Y mae’r un sy’n trugarhau wrth y tlawd yn rhoi benthyg i’r Arglwydd ac fe dâl ef iddo am ei weithred (Diar. 19:17) ni ddaw angen arno (Diar. 28:27), a chaiff drysor yn y nef (Mc. 10:21). Mae Duw yn medru darparu fel y gallwn ni ddarparu ar gyfer bob gwaith da, nid yn unig drwy ddarparu ar gyfer anghenion y saint ond esgor ar ddiolchgarwch i Dduw (2Cor. 9:6-12).

3.2.7 Rhyfela a Phleidleisio

3.2.7.1 Rhyfela

Mae’r saint yn weinidogion o’r Duw Goruchaf. Mae’n annerbyniol i unrhyw Gristion ladd un arall (Ex. 20:13; Mth. 5:38-48; Lc. 6:27-36). Os byddai gwasanaethwyr Crist o’r byd hwn ymladdant rhag cael eu trosglwyddo i’r awdurdodau bydol (In. 18:36). Er eu bod yn byw yn y cnawd, nid ar wastad y cnawd y maent yn milwrio (2Cor. 10:3). Mae gan arfau’r etholedigion bwerau dwyfol i ddinistrio cadarnleoedd (2Cor. 10:4). Felly, mae rheidrwydd ar Gristnogion i gefnogi llywodraeth eu gwlad ac i weithio mewn gweddi ac ufudd-dod onest er budd eu cenedl, fel y gall Duw eu hamddiffyn trwy Ei bŵer.

3.2.7.2 Pleidleisio

Mae Cristnogion i gynnal cyfraith gwlad oni bai eu bod yn gwrthgyferbynnu â’r gyfraith Feiblaidd. Pan fo pleidleisio yn orfodol trwy gyfraith, gall Cristnogion weithredu ar dystiolaeth trwy bleidleisio lle nad oes gwrthdaro ag egwyddor y Beibl. Mae dewis arweinwyr trwy etholiad yn deillio o Deuteronomuim 1:9-14 ac ar ddiwedd amser neu ar ddiwedd proffwydoliaeth milflwyddol Hosea 1:11. Gwelir ymglymiad mewn brwydrau gwleidyddol fel ymestyniad o ryfela.

Pennod 4

Athrawiaethau ynglŷn â’r Meseia

4.1 Rhag Hanfod Crist

Roedd gan Iesu Grist rag-fodolaeth fel hanfod ysbrydol. Roedd yn bodoli o gychwyn y cread (In. 1:1) ef oedd cychwyn cenedledig cyntaf y cread (Col. 1:15) ac, felly, cychwyn cread Duw (Dat. 3:14). Roedd yn cael ei gyfeirio ato yn yr Hen Destament fel Angel Yahweh, Angel Presenoldeb neu Angel y Cyfamod. Ef oedd yr Angel a ddaeth ag Israel allan o Wlad yr Aifft a thrwy'r Môr Coch. Ef oedd yr Angel yn y Cwmwl a’r Angel a siaradodd â Moses yn Sinai (Act 7:35-38). Ef oedd yr El Bethel neu'r El, y Duw neu Uwch-Offeiriad Tŷ Duw (Gen. 28:17,21-22, 31:11-13; Heb. 3:1). Crist oedd Angel HaElohim (Gen. 31:11-13). Fe gafodd ei apwyntio yn elohim gan ei elohim (Salmau. 45:6-7) sef Duw'r Tad. Roedd yn ffyddlon i’r hwn a’i penododd, fel mab, yn union fel y bu Moses hefyd yn ffyddlon yn nhŷ Duw (Heb. 3:2), ond fel gwas.

Daeth Crist i mewn i’r byd er mwyn tystio i’r gwirionedd (In. 18:37). Nid yw Ei Deyrnas wedi dod i’r ddaear eto. Yr oedd Duw wedi rhagwybod amdano cyn seilio’r byd, ac amlygwyd ef yn niwedd amserau er ein lles ni (1Pedr. 1:20).

4.2 Y Croeshoeliad a’r Atgyfodiad

Anfonwyd Crist i mewn i’r byd i achub y ddynoliaeth drwy wared ei bobl oddi wrth eu pechodau (Mth. 1:21, 9:6; Mc. 3:28) fel yr oen (Dat. 5:6-8). Fe’i cymerwyd o sylfeini'r byd fel gweithred o ragwelediad dwyfol Duw (Dat. 13:8).

Os nad yw’r ddynoliaeth yn credu taw Crist yw’r Meseia y byddant yn marw yn eu pechodau (In. 8:24).

Bu fawr Crist dros ein pechodau ni, yn ôl yr Ysgythrau, ac fe’i claddwyd a’i gyfodi'r trydydd dydd, yn ôl yr Ysgythrau (1Cor. 15:3-4), ac ymddangos i fwy na phum cant o’r brodyr (1Cor. 15:5-6). Roedd Crist wedi codi yn barod cyn y dydd y gelwir yn ddydd Sul neu ddiwrnod cyntaf yr wythnos (In. 20:1; gweler hefyd Mc. 16:9-10, sydd i’w gwestiynu; sylwer ar amser y ferf yn ar ôl atgyfodi). Bu Mab y Dyn yn nyfnder y ddaear am dri diwrnod a thair nos fel y bu Jona (Mth. 12:39-40; gweler hefyd Lc. 24:6-8).

Croeshoeliwyd Crist (Mth. 27:32-50; Mc. 15:24-37; Lc. 23:33-46; In. 19:23-30) am naw o’r gloch y bore (Mc. 15:25), tan dri o’r gloch (Mc. 15:33). Does dim tystiolaeth os mai ar bostyn y croeshoeliwyd ef neu ar y groes T a ddatblygwyd yn ddiweddarach. Er gwaethaf hynny, nid yw’r groes wedi ei gymryd fel symbol o’r ffydd, gan ei fod yn deillio o ofergoeliaeth hynafol gwrth-Gristnogol.

Croeshoeliwyd Crist ac y mae wedi cyfodi (Mc. 16:6). Fe esgynnodd at ei Dad ein Tad, ei Dduw ac ein Duw (Jn. 20:11-18). Y mae ef ar ddeheulaw Duw, a’r angylion a’r awdurdodau a’r galluoedd wedi eu darostwng iddo (1Pedr. 3:22).

Roddodd Crist y pŵer i faddau ac i ddal pechodau i’r Eglwys trwy'r apostolion.(In. 20:22-23).

4.3 Ailddyfodiad Crist

Daeth Crist yn gyntaf fel aberth iachawdwriaeth. Nid dod fel Brenin Meseia a wnaeth i ddechrau, a chafodd hyn ei gamddeall gan Iddewon ei amser. Roeddent yn disgwyl Brenin gorchfygol (Mth. 27:11,29,37; Lc. 23:2-3, 37-38; In. 19:14-16). Serch hynny cafodd ei gydnabod, gan rai trwy'r Ysbryd Glân, fel Brenin Israel (In. 1:49, 12:13-15) gan gyflawni proffwydoliaeth (Sech. 9:9).

Fe ddaw Iesu unwaith eto yn ei ogoniant, a’r holl angylion gydag ef (Mth. 25:31) fel Brenin y Meseia (Dat. 17:14). Bydd ei ddyfodiad mor glir â mellten yn goleuo’r nefoedd (Mth. 24:27). Fe fydd yn teyrnasu mewn pŵer ynghyd â’r saint atgyfodedig (Dat. 20:4).

Bydd yr Arglwydd yn diddymu'r dyn  anghyfraith trwy ysblander ei ddyfodiad (2Thes. 2:8). Bydd dyfodiad y dyn anghyfraith yn digwydd trwy weithrediad Satan; fe’i nodweddir gan bob math o nerth ac arwyddion a rhyfeddodau gau (2Thes. 2:9) a chan bob twyll anghyfiawn, i ddrygu’r rhai sydd ar lwybr colledigaeth am iddynt beidio â derbyn cariad at y gwirionedd a chael eu hachub. Oherwydd hyn y mae Duw yn anfon arnynt dwyll, i beri iddynt gredu celwydd, ac felly bydd pawb sydd heb gredu’r gwirionedd, ond wedi ymhyfrydu mewn anghyfiawnder, yn cael eu barnu (2Thes. 2:10-12). Bydd yr Arglwydd yn dinistrio'r system wrthgiliol hon ag anadl ei enau, a’i diddymu trwy ysblander ei ddyfodiad (2Thes. 2:8).

4.4 Teyrnasiad Milflwyddol Crist

Bydd Crist yn sefydlu teyrnas ar y blaned am fil o flynyddoedd ynghyd â saint atgyfodedig (Dat. 20:3-4). Cyfyngir Satan am fil o flynyddoedd i garchar tywyll byd y meirw lle yr anfonir angylion wedi pechu (2Pedr 2:4). Y saint, y rheini a ddienyddiwyd ar gyfrif tystiolaeth Iesu ac ar gyfrif gair Duw. Nid oedd y rhain wedi addoli’r bwystfil, na’i ddelw ef, na chwaith wedi derbyn ei nôd ar eu talcen nac ar eu llaw. Daethant yn fyw, a theyrnasu gyda Christ am fil o flynyddoedd (Dat. 20:4). Dyma’r atgyfodiad cyntaf (Dat. 20:5). Ni ddaw gweddill y meirw yn fyw nes i’r mil o flynyddoedd ddod i ben (Dat. 20:5). Dyma’r ail atgyfodiad neu’r atgyfodiad cyffredinol.

Yn ystod y fil o flynyddoedd hyn, bydd Crist yn ailsefydlu'r Deyrnas yn ôl y cyfreithiau Beiblaidd a osododd yn Sinai. Bydd hyn yn digwydd o’r diwrnod y saif ar Fynydd yr Olewydd (Sech. 14:4,6 ff). Bydd y cenhedloedd yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem a chânt eu dinistrio (Sech. 14:12). Bydd pob un sy’n goroesi yn dod i fyny i Jerwsalem i addoli’r brenin, Arglwydd y Lluoedd a chadw Gŵyl y Pebyll. (Sech. 14:16). Bydd Y Saboth, Lleuad Newydd a Diwrnodau Sanctaidd yn orfodol a bydd y gyfraith yn deillio o Jerwsalem. A phrun bynnag o deuluoedd y ddaear nad â i fyny i Jerwsalem i addoli’r brenin, Arglwydd y Lluoedd, ni ddisgyn glaw arno (Sech. 14:16-19).

Ar ddiwedd y Mileniwm, caiff Satan ei ollwng yn rhydd o’i garchar, a daw allan i dwyllo’r cenhedloedd ym mhedwar ban y byd (Dat. 20:7-8). Fe’u cesglir unwaith eto ar gyfer brwydr, ond cânt eu dinistrio gan dân (Dat. 20:9); ac yna caiff Satan ei ddinistrio. Bydd yr atgyfodiad cyffredinol yn digwydd wedyn, a'r Farn Ddiwethaf (Dat. 20:13-15).

Pennod 5

Y Broblem o Ddrygioni

5.1 Bodolaeth Drygioni trwy Wrthryfeliad y Lluoedd

Taflwyd Satan allan o’r nefoedd oherwydd y pechod o wrthryfela sydd, oherwydd ei fod yn ceisio sefydlu ewyllys yn hafal neu yn uwchraddol i Dduw y Tad, yn eilunaddoliaeth (neu ddewiniaeth fel y cyfeiri ato yn 1Sam. 15:23). Ceisiodd Satan wneud ei hun yn hafal â Duw y Tad. Ni cheisiodd Crist ar y llaw arall wneud ei hun yn hafal i Dduw, yn hytrach, darostyngodd i’w ewyllys (In. 4:34).

Er ei fod ef erioed ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i ddal gafael ynddo.

Ond fe’i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd dynion. O’i gael ar ddull dyn, fe’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie angau ar groes.

Am hynny tradyrchafodd Duw ef, a rhoi iddo’r enw sydd yn goruwch pob enw... (Phil. 2:6)

Felly dyrchafodd Duw Grist trwy ufudd‑dod oherwydd ni cheisiodd gydraddoldeb gydag Ef ac ni cheisiodd ddiorseddu Duw, fel y ceisiodd traean o’r elohim a’r bene elohim wneud.

Yn Luc 10:18 dywed Crist iddo weld Satan yn cwympo fel mellten o’r nefoedd. Tynnodd Satan draean yr Angylion neu Sêr y Nefoedd gydag ef (Dat. 12:4). Bwriwyd yr angylion gyda Satan i’r ddaear (Dat. 12:9). Mae’r diffeithwch yma wedi ei symbylu gan y diffeithwch y cyfeirir ato yn Datguddiad 8:10 lle mae’r trydydd angel yn arddangos unwaith yn rhagor y diffeithwch a achoswyd gan gwymp Seren y Lluoedd a ddinistriodd draean o’r cread. Dinistriwyd y Lliaws gan y gwrthryfel. Y Lliaws yw Tabernacl Duw yn y nefoedd. Canlyniad y gwrthryfel oedd i draean y tabernacl hwnnw gael ei diddymu ac agorodd y ddaear ei genau mewn cabledd yn erbyn Duw, i gablu ei enw a’i breswylfa ef, sef y rhai sy’n preswylio yn y nef (Dat. 13:6). Felly, mae Duw yn preswylio yn y tabernacl nefolaidd, sef y Lliaws nefolaidd, yn ogystal ag yn yr etholedigaeth, sef preswyl daearol Duw.

5.2 Yr Athrawiaeth yn ymwneud â Rhagarfaeth

Duw drwy Grist, drwy’r Ysbryd Glan, a agorodd feddyliau'r etholedigaeth gan ddechrau gyda’r disgyblion, fel y gellid deall yr Ysgrythur (Lc. 24:45). Siaradodd Crist mewn damhegion fel na allai’r rhai nas dewiswyd ei ddeall. Felly, byddent yn troi ac yn cael eu hachub (Mth. 13:10-17) cyn eu bod yn gymwys i deimlo barn Duw arnynt. Mae Duw yn drugarog ac nid ydyw am i neb farw. Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda’r rhai sy’n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad. Oherwydd cyn eu bod hwy, fe’u hadnabu, a’u rhagordeinio i fod yn unffurf ac unwedd â’i Fab, fel mai cyntaf-anedig fyddai ef ymhlith brodyr lawer. A’r rhai a ragordeiniodd, fe’u galwodd hefyd; a’r rhai a alwodd, fe’u cyfiawnhaodd hefyd; a’r rhai a gyfiawnhaodd, fe’u gogoneddodd hefyd. O ystyried hyn oll, beth a ddywedwn? Os yw Duw trosom, pwy sydd yn ein herbyn? (Rhuf. 8:28-31).

5.3 Cyflwr y Meirw

Nid yw’r meirw yn moliannu’r Arglwydd (Salmau 115:17) maent mewn tywyllwch (Salmau 143:3). Nid oes enaid tragwyddol. Un ffawd a ddaw i’r holl bobloedd (Preg. 9:3). Nid yw’r meirw yn gwybod unrhyw beth (Eccl. 9:5).

Y maent yn feirw, heb fedru byw yn ysbrydion, heb fedru codi mwyach (Isa. 26:14).

Cyfeirir at feirw'r saint fel eu bod yn cysgu neu wedi cwympo i gysgu (see Mth. 9:24; In. 11:11; 1Cor. 11:30, 15:6,18,51; 1Thes. 4:13-15; 2Pedr 3:4).

5.4 Atgyfodiad y Meirw

Mae Duw yn gwneud rhyfeddodau i’r meirw a bydd y rhai hynny sy’n farw yn codi i’w foliannu (Salamu 88:10). Mynega ei ffyddlondeb a’i wirionedd o’r bedd (Salmau 88:11) wrth i’r meirw atgyfodi. Oherwydd gwyddai Job fod ei amddiffynnwr yn fyw (Job 19:25) ac y saif yn y diwedd ar y ddaear. Ar ôl i Job gael ei ddinistrio, gwyddai y byddai yn gweld Duw o’i gnawd, ac y byddai Duw o’i blaid, ac y dylai ei lygaid ei weld Ef ac nid llygaid dieithr (Job 19:25-27).

Atgyfododd Crist y meirw fel ein bod yn gwybod mai ef yw y Meseia (Mth. 11:4-5). Roedd Laserus yn enghraifft o’r pŵer hwn (In. 11:11). Roedd awdurdodau'r cyfnod yn ymwybodol o’r cysyniad o atgyfodiad a oedd yn gysylltiedig â’r Meseia (Mth. 14:2).

Deellid na ddylem huno i gyd, ond y dylem gael ein newid, ar ganiad yr utgorn diwethaf (1Cor. 15:51). Felly, bydd y brethyn yn cael ei basio ar hyd y cenedlaethau ac yn cwympo i gysgu, ond ar y diwrnod olaf bydd y Meseia yn dod tra bod eraill o’r saint yn parhau i fyw. Felly newidir popeth i mewn i gyrff anianol, cyrff ysbrydol (1Cor. 15:44 ff). Bydd y rhai hynny sydd yn huno yn cael eu codi. Ni fydd y rhai hynny sydd yn fyw, ac sydd yn cael eu gadael tan ddyfodiad yr Arglwydd, yn rhagflaenu'r rhai hynny sydd wedi cwympo i gysgu (1Thes. 4:13-15). Pan floeddir gorchymyn, pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o’r nef; bydd y meirw yng Nghrist yn atgyfodi gyntaf, ac yna byddwn ni, y rhai byw a fydd wedi eu gadael, yn cael ein cipio i fyny gyda hwy yn y cymylau i gyfarfod â’r Arglwydd, felly byddwn gyda’r Arglwydd yn barhaol (1Thes. 4:16-17).

Wedi’r atgyfodiad, cychwynnir llywodraeth milflwyddol y saint. A bydd Duw yn llywodraethu hwy â gwialen haearn (Dat. 2:26-27).

Yn yr atgyfodiad ni phriodant ac ni phriodir hwy (Mth. 22:30). Mae’r saint yn mynd i gael eu codi fel hanfodion ysbrydol. Bu farw Iesu Grist drosom, er mwyn i ni gael byw gydag ef, prun bynnag ai yn effro ai yn cysgu y byddwn (1Thes. 5:10).

Mae’n bwysig ein bod yn deall mai ond y cyfiawn sydd yn perthyn i’r atgyfodiad cyntaf. Yr un gair yw Cyfiawn (zedek) a Chyfiawnder yn Hebraeg. Felly, mae hydreiddiad anedifeiriol cyfiawnder yn eithrio’r etholedigion o’r atgyfodiad cyntaf.

5.5 Cosbi'r Pechadurus

Mae’r ddynoliaeth yn destun i system o hyfforddiant cyfiawn. Nid yw Duw yn ewyllysio i neb gael ei ddinistrio, ond i bawb ddod i edifeirwch (2Pedr. 3:9).

Pe bai Duw yn gwyrdroi ei ysbryd yna byddai pob cnawd yn marw, a dyn yn dychwelyd i’r pridd (Job 34:15) Ac felly nid yw’r enaid yn bodoli.

Bydd yr holl ddynoliaeth sydd ddim yn cael eu codi yn yr atgyfodiad cyntaf, sydd yn well atgyfodiad (Heb. 11:35), yn cael eu codi o farwolaeth yn yr ail atgyfodiad yn dilyn teyrnasiad milflwyddol y Meseia. Mae hyn yn gyfnod o farnu sydd yn ymddangos i ledaenu dros gan mlynedd (Isa. 65:20). Mae codi i farn (In. 5:29) yn broses o wiriad a dysg felly gall y ddynoliaeth baratoi i dderbyn bywyd tragwyddol. Mae'r gair barnu (kriseoos) (damnation yn y KJV) hefyd yn golygu penderfyniad.

Ceir ymdeimlad o gywiriad yn deillio o opsiynau neu benderfyniadau yn perthyn i weithredoedd. Gall gario'r cysyniad o gosb neu o edifeirwch. Serch hynny, nid yw’r boblogaeth hynny sydd heb gael y cyfle i nabod Duw yn gallu cael eu cosbi am y ffaith hynny. Caiff y creulon eu darostwng i hyfforddiant dwys. Os nad ydynt yn edifarhau ar ôl y cyfnod o gan mlynedd wedi’r ail atgyfodiad, fe’u gadewir i farw, a chaiff eu cyrff eu dinistrio gan dân Gehenna (wedi ei gyfieithu - uffern) (Mth. 5:22,29,30, 10:28, 18:9, 23:15,33; Mc. 9:43,45,47; Lc. 12:5; Iago. 3:6).

Yn y Testament Newydd mae yna dri gair sydd yn cyfieithu i olygu uffern. Y rhain yw SGD 86 hades sydd yn debyg i SHD 7585 Sheol, neu bwll neu fedd, y man lle gosodir y cyrff meirw. Yr ail air yw SGD 1067 Gehenna, sydd yn deillio o’r Hebraeg am Gwm yr Hinnom. Pydew sbwriel oedd hwn lle llosgwyd sbwriel ac ani